Isetholiadau: Buddugoliaeth ddwbl i’r Blaid Lafur yng nghadarnleoedd y Ceidwadwyr
Mae’r Blaid Lafur wedi sicrhau buddugoliaeth ddwbl mewn seddi a oedd yn rhai saff i’r Ceidwadwyr, wrth i ganlyniadau dau isetholiad gael eu cyhoeddi fore Gwener.
Dywedodd arweinydd y Blaid Lafur Syr Keir Starmer fod ei blaid wedi “ail-lunio’r map gwleidyddol” wrth gymryd seddi Tamworth a Chanol Sir Bedford.
Roedd y Ceidwadwyr yn amddiffyn mwyafrif o 19,634 yn Tamworth ond fe gipiodd Sarah Edwards o Lafur y sedd gyda mwyafrif o 1,316.
Y canlyniad a gyhoeddwyd toc wedi 2.45am oedd yr ail ogwydd (swing) mwyaf erioed i’r Blaid Lafur mewn isetholiad, sef 23.9%.
Yng Nghanol Sir Bedford llwyddodd Alistair Strathern o’r Blaid Lafur i wrthdroi mwyafrif o 24,664 ac ennill y sedd o 1,192 o bleidleisiau, gogwydd o 20.5%.
“Mae’r rhain yn ganlyniadau rhyfeddol sy’n dangos bod Llafur unwaith eto yn gwasanaethu pobol sy’n gweithio ac yn gallu ail-lunio’r map gwleidyddol,” meddai Keir Starmer.
“Mae ennill yn y cadarnleoedd Torïaidd hyn yn dangos bod pobl eisiau newid ac maen nhw’n barod i roi eu ffydd yn y Blaid Lafur i’w gyflawni.
“Mae pleidleiswyr ar draws Swydd Bedford, Tamworth a Phrydain eisiau llywodraeth Lafur sy’n mynd i gyflawni drostyn nhw ac sydd â chynllun pendant.
“Bydd Llafur yn rhoi ei dyfodol yn ôl i Brydain.”
Ymateb yn lleol
Dywedodd Rhion Jones, sydd wedi byw yn y sir ers dros 40 mlynedd, ei fod wedi ei synnu at y canlyniad yn is-etholaeth Canol Sir Bedford.
Dywedodd wrth raglen Newyddion S4C nos Fawrth y byddai wedi ei "syfrdanu" petai Llafur yn ennill y dydd.
Wrth ymateb fore Gwener dywedodd fod "dyfarniad yr etholwyr yn ddi-amwys".
"Os fedr Keir Starmer ennill yma, ‘does dim llawer o Loegr a fydd y tu hwnt i’w ymgyrchu," meddai.
Ymateb y Ceidwadwyr
Galwyd yr isetholiadau wedi i ddau aelod Ceidwadol amlwg, Nadine Dorries a Chris Pincher, ymddiswyddo.
Dywedodd cyn-Ysgrifennydd Cymru, yr AS Ceidwadol Syr Robert Buckland, bod angen i’r blaid ganolbwyntio ar y pynciau oedd o bwys i bobl.
“Rwy’n credu ein bod ni Geidwadwyr angen ei gwneud hi’n glir iawn sut fath o arweiniad fyddwn ni’n ei gynnig dros y pum mlynedd nesaf,” meddai.
“Dydw i ddim eisiau dadleuon academaidd am faterion sydd ddim yn mynd i newid meddyliau pleidleiswyr.
“Rwy’n edrych am safbwyntiau difrifol ar bynciau sy’n wirioneddol bwysig – ar yr economi, ar dai, ar ddyfodol ein pobl ifanc.
“Mae gennym ni rai atebion Ceidwadol da i’r materion hyn. Dewch i ni gael eu clywed a gadewch i ni glywed dim byd arall dros y 12 mis nesaf.”
Dadansoddiad
Dywedodd yr arbenigwr academaidd ar etholiadau, yr Athro Syr John Curtice, bod y canlyniadau yn “newyddion ofnadwy” i’r Ceidwadwyr.
“Dyw ffawd y Ceidwadwyr heb ei selio ond maen nhw’n wynebu colli mewn 12 mis os nad ydyn nhw’n gallu gwneud rhywbeth mawr i newid pethau,” meddai.
“Mae’n bosib y bydd y Ceidwadwyr yn cael eu dal yn y canol wrth i rai o bleidleiswyr ‘Gadael’ [y refferendwm Brexit] droi at Lafur a rhai at Reform UK.”