Meddygon yn derbyn cynnig tâl Llywodraeth Cymru gan ddod ag anghydfod i ben
Mae meddygon ac ymgynghorwyr iechyd wedi pleidleisio o blaid derbyn cynnig tâl Llywodraeth Cymru, meddai BMA Cymru.
Daw hyn wedi i feddygon iau fynd ar eu streic hiraf erioed yng Nghymru ym mis Mawrth.
Dywedodd y BMA bod y bleidlais yn dod a thri anghydfod gan feddygon iau, ymgynghorwyr iechyd a doctoriaid arbenigol (SAS), i ben.
Pleidleisiodd 96% o feddygon iau o blaid derbyn y telerau newydd, 85% o ymgynghorwyr iechyd a 82% o ddoctoriaid arbenigol.
Dywedodd Dr Oba Babs-Osibodu a Dr Peter Fahey, cyd-gadeiryddion Pwyllgor Meddygon Iau Cymru'r BMA fod y bleidlais yn “dangos pa mor bell yr ydym wedi dod”.
“Ers yn rhy hir, nid yw meddygon iau wedi eu gwerthfawrogi.
“Fe ddewison ni sefyll i fyny a chael ein cyfri, gan wrthod derbyn toriadau pellach i’n cyflogau.
“Er ein bod yn falch o’r cynnydd yr ydym wedi’i wneud, mae’r frwydr dros adfer cyflog llawn ymhell o fod ar ben”.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Vaughan Gething ei fod yn “falch iawn bod meddygon ymgynghorol, iau, a’r SAS yng Nghymru, wedi derbyn ein cynnig cyflog ar gyfer 2023-24, gan ddod â’r streiciau i ben.
“Rwy’n hynod o ddiolchgar i feddygon ledled Cymru, a’n gweithlu GIG, am y gwaith anhygoel maent yn ei wneud bob dydd."