Newyddion S4C

Teyrnged i fyfyrwraig ym Mhrifysgol Caerdydd fu farw mewn gwrthdrawiad

lucy atkins.png

Mae teulu myfyrwraig 20 oed ym Mhrifysgol Caerdydd fu farw mewn gwrthdrawiad wedi rhoi teyrnged iddi. 

Bu farw Lucy Atkins, 20 oed, ar ôl cael ei tharo gan dar yn Quinton ger Birmingham ddydd Llun. 

Fe gafodd y ci teuluol, Simba, hefyd ei ladd yn y gwrthdrawiad. 

Mewn teyrnged iddi, dywedodd rhieni a brawd Lucy: "Roedd Lucy yn ferch arbennig a oedd yn llawn bywyd ac roedd yn dod â hapusrwydd a hwyl i fywydau pawb oedd yn cwrdd â hi.

"Roedd hi'n byw bywyd i'r eithaf. Roedd yn gyn-ddisgybl ym Meithrinfa World's End, Ysgol St Peter's, Ysgol Bluecoat ac yna Ysgol Uwchradd Edgbaston.

"Roedd Lucy newydd orffen ei blwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn edrych ymlaen at rannu tŷ gyda'i ffrindiau yn yr ail flwyddyn."

Digwyddodd y gwrthdrawiad ychydig cyn 08:45 ar 14 Mehefin.

Fe ddioddefodd Lucy anafiadau difrifol a bu farw ychydig yn ddiweddarach. 

Arhosodd gyrrwr y car yn ardal y gwrthdrawiad ac mae'n cydweithio gyda'r heddlu yn yr ymchwiliad. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.