Newyddion S4C

Dyn wedi marw yn Nhyddewi ar ôl 'mynd i drafferthion mewn dŵr'

Tyddewi

Mae dyn wedi marw yn Nhyddewi, Sir Benfro ar ôl mynd i drafferthion mewn dŵr, meddai'r gwasanaethau brys.

Cafodd Heddlu Dyfed Powys eu galw i gyfeiriad yn y ddinas ar ddydd Iau 27 Mehefin. Roedd criwiau ambiwlans a’r gwasanaeth tân hefyd yn bresennol.

Roedd dyn 74 mlwydd oed eisoes wedi marw yn yr eiddo, meddai'r heddlu. Nid yw ei farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus.

Mae teulu’r dyn wedi cael gwybod am y digwyddiad, yn ogystal â’r crwner.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.