Euro 2020: Defnyddio pasbort brechu i gael mynediad i Wembley

Bydd modd cael mynediad i wylio gemau Euro 2020 yn Wembley gyda phrawf eich bod wedi cael eich brechu yn llawn yn erbyn Covid-19.
Yn ôl y wybodaeth ddiweddaraf ar wefan Undeb Cymdeithasau Pêl-droed Ewrop (UEFA), dywed y bydd rhaid i bawb dros 11 oed ddangos tystiolaeth eu bod wedi eu brechu'n llawn, neu ddangos prawf llif unffordd negyddol am Covid-19 wedi ei gymryd o fewn 48 awr i'r gêm er mwyn cael mynediad i'r stadiwm.
Gellir dangos statws brechu trwy ap y GIG, a rhaid bod yr ail ddos wedi cael ei roi 14 diwrnod cyn y gêm.
Oherwydd hyn, mae'n debyg mai nifer fach o gefnogwyr fydd yn gallu cael mynediad gan ddefnyddio pasbort brechu, meddai Evening Standard.
Darllenwch y stori'n llawn yma.