Pryder ymgyrchwyr am y Gymraeg yn sgil toriadau cyllid Llywodraeth Cymru
Mae penderfyniad Llywodraeth Cymru i dorri cyllid addysg a’r iaith Gymraeg yn "siom" ac yn "bryder" i fudiadau sy'n ymgyrchu dros y Gymraeg.
Fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru becyn o newidiadau i’w cyllid ar gyfer 2023/24 ddydd Mawrth.
Mae hynny yn golygu y bydd y Llywodraeth yn torri cyllidebau sawl adran, gan gynnwys elfennau oddi fewn i adrannau Addysg a’r Iaith Gymraeg, Cyllid a Llywodraeth Leol a Materion Gwledig.
Fe fydd yr Adran Addysg a Iaith Gymraeg yn gweld newid o hyd at £75 miliwn yn ei chyllideb, ond mae gweinidogion yn dweud y bydd cyllideb y Gymraeg wedi ei warchod yn llawn.
Pryder
Mae Toni Schiavone yn Gadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith ac wrth ymateb i’r cyhoeddiad, dywedodd Mr Schiavone bod y sefyllfa yn "bryderus" iawn.
Dywedodd wrth Newyddion S4C: "Mae'n amlwg bod unrhyw doriad yn bryderus ac yn cael sgil effaith ar y Gymraeg.
"Mae hefyd yn peri pryder mawr wrth ystyried bod y Llywodraeth wedi ymrwymo i Ddeddf Addysg Gymraeg newydd sydd i fod i gynorthwyo twf yn yr iaith.
"Ma unrhyw doriad ar le ni 'di bod yn galw am gynnydd yn y gwariant yn destun siom ac yn bryderus iawn."
Cafodd cynigion eu cyhoeddi gan weinidogion Llafur a Phlaid Cymru ar gyfer Bil Addysg Gymraeg fis Mawrth diwethaf.
Yn rhan o'r cynigion roedd yna addewid y bydd cyfle i bob disgybl yng Nghymru ddod yn siaradwr Cymraeg hyderus erbyn 2050 o dan gynlluniau deddfu newydd.
Ond i Mr Schiavone y cwestiwn mawr ydy pa sectorau o fewn yr adran addysg a’r iaith Gymraeg fydd yn profi colled?
Nid yw Llywodraeth Cymru wedi manylu ar ba sectorau o fewn yr adran fydd yn colli cyllid.
“Dydyn ni ddim yn gwybod i le fydd y toriad yn cael effaith – cyllid i ysgolion neu i gynlluniau a phrosiectau," meddai Mr Schiavone.
Yr un yw’r farn gan Dylan Bryn Roberts, Prif Weithredwr y mudiad lobïo Dyfodol i'r Iaith.
Dywedodd bod y cyhoeddiad yn newyddion drwg i’r iaith Gymraeg:
“Yn amlwg mae'n bryder mawr clywed cwtogi o’r raddfa yn digwydd.
“Ond yr hyn sy’n fwy pryderus fyth yw’r efffaith ar Cymraeg 2050 - targed i sicrhau miliwn o siaradwyr lle ma’ pwyslais yn bennaf ar y gyfundrefn addysg statudol.
“Mae’n gwbl eglur dros y blynyddoedd diwethaf bod y Llywodraeth wedi methu yn llwyr (a chyrraedd) cerrig milltir targedau yn y tymor byr.
“Ac mae peryg bod y cwtogi yn mynd i achosi gostyngiad pellach yn y targedau.
“Ar ben y realiti bod na argyfwng ym myd addysg yng Nghymru, mae gweld nifer y bobl ifanc yn crebachu a lleihau yn gwneud cwrs dysgu Cymraeg hefyd yn bryder.
“Gallai rhywun weld ar un ysytr bod angen blaenoriathu gwasanaethau fel iechyd ond mae unrhyw drefn yn cwtgoi ar addysg yn wirioneddol brydeus.”
Iechyd
Fel rhan o’r newidiadau, fe gyhoeddodd y Llywodraeth ddarpariaeth o £425 miliwn ychwanegol i gefnogi’r GIG.
Er bod Mr Schiavone yn deall y cynnydd hwn, dywedodd y dylai’r Llywodraeth ganolbwyntio ar “ble mae’r anghenion fwyaf”.
“Be yw gweledigaeth y llywodraeth a sut mae cyrraedd yno?
“Mae Addysg ac iechyd yn ddau faes holl bwysig, mae pob aelod o’n cymdeithas ni, nid un sector yn unig, yn cael eu heffeithio ganddynt.
“Un o’r nodau tro ar ôl tro erbyn hyn yw cyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 ac yn sgil hynny ma’ Plaid Cymru a Llafur wedi amlinellu cynlluniau i gyrraedd y targed hwnnw," meddai.
“Sy’n codi’r cwestiwn a yw gweledigaeth yn mynd i ddwyn ffrwyth nawr?”
Ychwanegodd Mr Schiavone bod angen buddsoddiad pellach i raglen hyfforddiant athrawon i annog mwy o bobl i addysgu trwy'r Gymraeg.
"Os nad oes buddsoddiad sylweddol i’r gweithle addysg yna ma hwnna yn mynd i gyrraedd yr amcanion uchelgeisiol yna yn llawer anoddach."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod cyllideb y Gymraeg wedi ei warchod yn llawn.
"Rydym wedi diogelu gwasanaethau rheng flaen mewn ysgolion, colegau a phrifysgolion, ac wedi gwneud arbedion o danwariant mewn cyllidebau a arweinir gan alw."