Bwcabus: Cyfarfod i drafod dyfodol cludiant gwledig yn y gorllewin
Fe fydd cyfarfod yn cael ei gynnal i drafod dyfodol cludiant cymunedol mewn ardaloedd gwledig yn y gorllewin ddydd Iau, yn dilyn tranc gwasanaeth Bwcabus yn yr ardal ddiwedd y mis.
Wedi'r cyhoeddiad na fydd y gwasanaeth yn cael ei ariannu ar ôl 31 Hydref, fe gafodd penderfyniad Llywodraeth Cymru i roi stop ar y cynllun ei feirniadu’n hallt, gyda phryder nad oedd yna ddigon o rybudd o'r newid pan gafodd ei gyhoeddi ddiwedd mis Medi.
Dywedodd y Cynghorydd Linda Evans, dirprwy arweinydd Cyngor Sir Gâr, yn sgil y cyhoeddiad fod Cyngor Sir Gâr, Cyngor Sir Ceredigion a Chyngor Sir Penfro wedi bod yn trafod gyda Llywodraeth Cymru ers 18 mis am sut y byddai modd parhau gyda'r gwasanaeth.
Cyllid teithio
Wrth gyhoeddi'r newyddion am dranc y gwasanaeth, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Er gwaethaf addewidion na fyddai Cymru yn colli ceiniog yn dilyn Brexit, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi methu cynnal cyllid ar gyfer cynlluniau teithio gwledig oedd yn cael eu cefnogi gan yr Undeb Ewropeaidd.
"Yn anffodus, oherwydd hynny, ni fydd modd i ni barhau i gefnogi’r gwasanaeth Bwcabus.”
Fe fydd y cyfarfod cyhoeddus brynhawn dydd Iau yn cael ei gynnal yn Ysgol Bro Teifi, Llandysul, ac yn rhithiol dros y we.
Ymysg y rhai fydd yn trafod y camau nesaf yn y cyfarfod fydd Elin Jones AS, Ben Lake AS, Dolen Teifi yn ogystal â chynrychiolwyr o’r awdurdodau lleol.