Yr Hybarch Dorrien Davies wedi ei ethol yn Esgob Tyddewi
Mae'r Hybarch Dorrien Davies, Archddiacon Caerfyrddin, wedi ei ethol yn Esgob Tyddewi.
Dyma'r 130ain esgob i wasanaethu Tyddewi, esgobaeth sy’n cynnwys Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion.
Roedd drysau Eglwys Gadeiriol Tyddewi wedi cael eu cloi ers y penwythnos er mwyn dewis esgob newydd.
Coleg o 47 o bobl, yn cynrychioli eglwysi o bob rhan o Gymru fu'n pleidleisio er mwyn ethol yr esgob newydd.
Ail agorodd drysau'r Gadeirlan brynhawn Mawrth wrth i Archesgob Cymru, Y Parchedicaf Andrew John, gyhoeddi enw'r esgob newydd wrth y drws gorllewinol.
Dywedodd yr esgobaeth eu bod nhw wedi chwilio am esgob dwyieithog ac un anwleidyddol.
Mae'r Hybarch Dorrien Davies yn olynu Dr Joanna Penberthy, a roddodd y gorau i'w swydd yn yr haf wedi cyfnod o salwch.
Mae wedi bod yn Archddiacon Caerfyrddin ers 2017 ac wedi bod yn gwasanaethu yn ardal Sanclêr yng ngorllewin Sir Gaerfyrddin.
Inline Tweet: https://twitter.com/ChurchinWales/status/1714307252985717033
Dywedodd yr Archddiacon Dorrien Davies: "Yn gyntaf rydw i am cymryd y cyfle hwn i ddiolch i bob un ohonoch chi dros y dyddie diwethaf am eich cefnogaeth.
"Rwy’n diolch i Dduw fy mod wedi cael y fath fraint i fod gyda chi ac i drafod dyfodol yr esgobaeth hon."