Athro wedi'i ladd a dau wedi'u hanafu'n ddifrifol mewn ymosodiad mewn ysgol yn Ffrainc

13/10/2023
S4C

Mae athrawes wedi marw a dau o bobol wedi’u hanafu’n ddifrifol yn ystod ymosodiad â chyllell mewn ysgol yn Ffrainc, yn ôl y cyfryngau lleol.

Dywedodd y Gweinidog Gérald Darmanin o Lywodraeth Ffrainc fod yr ymosodiad wedi digwydd yn ysgol uwchradd Gambetta yn ninas ogleddol Arras.

Dywed swyddogion lleol fod yr ymosodwr wedi cael ei arestio.

Mae sianel Ffrengig BFMTV wedi adrodd bod brawd yr ymosodwr hefyd wedi’i arestio.

Llun: Google

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.