Auf Wiedersehen i'r Almaen? Cymru gyda mynydd i'w ddringo os am gyrraedd Euro 2024
Yn dilyn buddugoliaeth Twrci yn erbyn Croatia nos Iau, mae gan dîm pêl-droed Cymru o dan arweinyddiaeth Rob Page fynydd i’w ddringo os ydynt am gyrraedd pencampwriaeth Euro 2024 yn yr Almaen.
Gyda gêm nesaf Cymru ar y gweill ddydd Sul, bydd angen i’r tîm sicrhau nid yn unig buddugoliaeth yn erbyn Croatia yn Stadiwm Dinas Caerdydd – ond hefyd yn erbyn Twrci ac Armenia fis nesaf, os ydynt am gadw'r freuddwyd yn fyw.
Gyda Thwrci dim ond angen un pwynt yn unig yn erbyn Latfia ddydd Sul i gyrraedd y rowndiau terfynol, mae pryder bellach am obeithion dynion Rob Page yn y bencampwriaeth.
Dechreuodd ymgyrch Cymru i gyrraedd Euro 2024 yn obeithiol gyda phwynt oddi cartref yn erbyn Croatia.
Ond roedd dwy golled yn erbyn Twrci ac Armenia yn ergyd anferth i’r tîm, a bellach, mae’n debygol y bydd yn rhaid i Gymru obeithio am gymhwyso drwy'r gemau ail-gyfle i gadw'r freuddwyd yn fyw os na ddaw gwyrth yn y gemau sydd i ddod.
Roedd buddugoliaeth o 2-0 yn erbyn Latfia ym mis Medi yn gam i'r cyfeiriad cywir yn eu hymgyrch i sicrhau eu lle yn y ddau safle uchaf ar frig Grŵp D.
Ond mae dyfodol Cymru yn Euro 2024 bellach yn y fantol, ac mae’r tîm yn y pedwerydd safle wedi buddugoliaeth Twrci dros Croatia nos Iau.
Bydd y gic gyntaf yn erbyn Croatia yng Nghaerdydd am 19.45 nos Sul, a bydd y Wal Goch yn gobeithio am berfformiad disglair a llygedyn o obaith ar y noson.