Penodi Paul Givan yn Brif Weinidog newydd Gogledd Iwerddon

Paul Givan
Mae Paul Givan wedi cael ei benodi yn Brif Weinidog Gogledd Iwerddon.
Daw'r penodiad yn dilyn penderfyniad Arlene Foster i gamu i lawr fel arweinydd y DUP a phrif weinidog y dalaith wedi llythyr o ddiffyg hyder ynddi gan aelodau ei phlaid.
Yn ôl The Independent, Mr Givan fydd y person cyntaf i gael ei benodi yn Brif Weinidog ag yntau ddim yn arweinydd ar ei blaid. Yn mis Mai, fe gyhoeddwyd y byddai Edwin Poots yn gweithredu fel arweinydd y DUP.