Prif Swyddog Cynnwys S4C yn gadael ei swydd wedi honiadau o gamymddwyn

Prif Swyddog Cynnwys S4C yn gadael ei swydd wedi honiadau o gamymddwyn
Mae rhaglen Newyddion S4C yn deall bod un o uwch-swyddogion S4C wedi gadael y sianel wedi honiadau iddi "ymddwyn yn amhriodol" mewn bariau yn Nantes, y penwythnos diwethaf.
Cafodd Llinos Griffin-Williams ei phenodi yn Brif Swyddog Cynnwys S4C ym mis Ebrill y llynedd. Cyn hynny hi oedd cyfarwyddwr cynnwys cwmni annibynnol Wildflame.
Daw'r newyddion wrth i ymchwiliad annibynnol i honiadau i swyddogion fwlio staff S4C barhau.
Mae Newyddion S4C yn deall i ymadawiad Ms Griffin-Williams ddilyn adroddiadau iddi wneud sylwadau anaddas i aelodau cwmni cynhyrchu annibynnol Whisper tra yn Nantes, neu Naoned.
Whisper sydd yn cynhyrchu rhaglenni S4C o Gwpan Rygbi'r Byd eleni.
Yn ôl gwybodaeth sydd wedi ei rannu â Newyddion S4C, roedd Ms Griffin-Williams yn Nantes yn ei rôl fel Prif Swyddog Cynnwys y sianel ar gyfer gem grŵp ddiwethaf Cymru yn erbyn Georgia. Wedi'r gêm, mewn dau leoliad yn y ddinas, deellir i ddadlau ddigwydd rhyngddi hi ac aelodau y cwmni.
Yn ôl adroddiadau, gig i nodi 40 mlwyddiant Clwb Ifor Bach oedd y lleoliad cyntaf, gyda'r dadlau yn parhau mewn ail far yng nghanol y ddinas.
Ymchwiliad
Mae Newyddion S4C wedi adrodd eisoes am honiadau o "fwlio" honedig o fewn i S4C. Dywedodd cyn-weithiwr, oedd am aros yn anhysbys nes bod yr ymchwiliad i'r honiadau rheiny yn cael eu cyhoeddi bod "hyn i gyd yn rhy gyfarwydd".
Does dim dyddiad wedi ei bennu ar gyfer cyhoeddi yr adroddiad i honiadau o fwlio. Dechreuodd yr ymchwiliad ar ddechrau mis Mai.
Mae Newyddion S4C wedi cysylltu â Ms Griffin-Williams ac S4C i ofyn am eu hymateb. Dydyn nhw heb wneud sylw hyd yn hyn.