Dirwy o £2,000 i ddyn o Gaerffili am waredu gweddillion fferm ganabis mewn coedwig

gwastraff fferm ganabis

Mae dyn o Gaerffili wedi gorfod talu bron i £2,000 wedi iddo waredu gweddillion fferm ganabis mewn coedwig.

Plediodd Peter Darmanin, 50, yn euog yn Llys Ynadon Abertawe i drosedd o fethu â chydymffurfio â’i ddyletswydd gofal wrth waredu gwastraff dan Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990.

Dywedodd wrth Swyddogion Gorfodi Gwastraff Cyngor Castell-nedd Port Talbot ei fod wedi trefnu, drwy ei gontractwr, i’r gwastraff gael ei symud gan gwmni arall, o dŷ ym Mlaengwynfi lle'r oedd Mr Darmanin yn landlord arno. Roedd y gwastraff yn cynnwys bagiau plastig a photiau o bridd.

Nid oedd swyddogion yn gallu dod o hyd i’r cwmni gwaredu gwastraff ac ni ddarparwyd unrhyw nodiadau trosglwyddo gwastraff.

Dywedodd Mr Darmanin wrth y swyddogion hefyd nad oedd wedi cysylltu’n uniongyrchol â’r cwmni i sicrhau fod ganddyn nhw drwydded i gludo gwastraff nac i wirio ble roedden nhw’n gwaredu’r gwastraff.

Dedfrydwyd Mr Darmanin gan yr ynadon i dalu dirwy o £800, yn ogystal â gorchymyn costau’r erlyniad o £793.91 a gordal dioddefwr o £320, sef cyfanswm o £1,913.91 am y drosedd.

Dywedodd y Cynghorydd Scott Jones, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Strydlun: “Dyma erlyniad llwyddiannus arall am drosedd diogelu amgylcheddol, diolch i’n hagwedd gadarn.

“Rydyn ni wedi ymrwymo i waredu’r ymddygiad gwrthgymdeithasol hwn o’n cymunedau, a hoffwn annog unrhyw un sy’n talu i rywun fynd â gwastraff i ffwrdd i wirio fod gan y person hwnnw drwydded lawn a’u bod wedi cofrestru i wneud y gwaith, gan fod y goblygiadau yn gallu fod yn ddirwy sylweddol a thalu costau, fel y gwelir yn yr achos hwn.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.