100 o swyddi newydd mewn ffatri gaws ar Ynys Môn

North Wales Live 08/06/2021
Mona
Google Street View

Bydd ffatri gaws yn creu 100 o swyddi newydd ar Ynys Môn.

Daw hyn ar ôl i gwmni Mona Island Dairy dderbyn grant o £3m gan Lywodraeth Cymru. 

Maen nhw hefyd wedi derbyn benthyciadau ychwanegol gwerth £20m er mwyn datblygu'r safle ym Mharc Diwydiannol Mona, rhwng Gwalchmai a Llangefni. 

Yn ôl North Wales Live, dyma fydd y ffatri fwyaf cynaliadwy yn Ewrop , gan y bydd yn gweithredu'n uniongyrchol ar drydan adnewyddadwy.

Fe fydd y ffatri yn cynhyrchu 7,000 tunell o gaws bob blwyddyn.

Darllenwch y stori'n llawn yma.

Llun: Google

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.