Teyrngedau wedi marwolaeth menyw mewn clwb rygbi
Mae menyw 37 oed wedi marw yn dilyn argyfwng meddygol mewn clwb rygbi ger Pontypridd.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Glwb Rygbi Y Beddau, nos Sadwrn.
Dywedodd Heddlu De Cymru iddyn nhw gael eu galw i’r clwb ar Heol Castellau ym mhentref Y Beddau tua 23:00 nos Sadwrn.
Dywedodd llefarydd ar ran y llu: “Llewygodd menyw 37 oed, a bu farw. Mae'r Crwner wedi cael gwybod ac mae'r ymchwiliad i amgylchiadau'r farwolaeth yn parhau."
Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaethau Ambiwlans Cymru: “Cawsom alwad am 22:10 nos Sadwrn i argyfwng meddygol yng Nghlwb Rygbi Y Beddau. Cafodd dau ambiwlans eu hanfon i’r lleoliad.
Mae negeseuon o gydymdeimlad wedi eu hanfon gan glybiau rygbi eraill yn dilyn y newyddion trasig.
Dywedodd datganiad gan Glwb Rygbi Llantrisant: "Rydym yn anfon ein cydymdeimlad dwysaf at y teulu a phawb yng Nghlwb Rygbi Y Beddau.
Dywedodd clwb lleol, Porth Harlequins : "Rydym yn anfon ein cydymdeimlad dwysaf at y teulu a phawb yng Nghlwb Rygbi Y Beddau. Mae ein meddyliau gyda chi i gyd ar yr adeg ofnadwy yma."
Llun: Clwb Rygbi Y Beddau