Newyddion S4C

Caergybi: Galw am wybodaeth gadarn gan berchennog y porthladd

Cau porthladd Caergybi

Mae perchennog asiantaeth recriwtio o Fôn wedi dweud ei bod yn pryderu y bydd rhagor o bobl leol yn colli eu swyddi “yn yr hirdymor” wedi i borthladd Caergybi gau. 

Mae Cheryl Kirkwood, sef cyd-berchennog Royalty Recruitment, wedi galw am “gyfathrebiad cadarn” gan reolwyr y porthladd gan ddweud fod yna ansicrwydd ymhlith cyflogwyr a gweithwyr ar hyn o bryd.  

Cafodd porthladd Caergybi ei gau ar ôl iddo gael ei ddifrodi yn Storm Darragh, gyda chadarnhad yr wythnos diwethaf na fyddai yn agor tan o leiaf 19 Rhagfyr.

Mewn datganiad ddydd Mawrth fe gyhoeddodd Stena Line y bydd yn parhau ar gau am gyfnod pellach eto sef 15 Ionawr. 

Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd Cheryl Kirkwood bod “diffyg cyfathrebiad cadarn” wedi creu rhagor o bryder iddi hi a’i staff sydd eisoes yn wynebu colli gwaith. 

“Mi oedd gynnon ni 10 swydd newydd sbon yn cychwyn ar y dydd Llun ar ôl y storm a wedyn gafodd y swyddi 'na eu ohirio. 

“A wedyn efo diffyg cyfathrebiad cadarn ynglŷn â pryd fyddai’r porthladd yn ail-agor, odd yr ohiriad o ddydd i ddydd ac roedd rhaid i ni jyst troi rownd at staff ein hunain a dweud: ‘O gobeithio fydd fory, gobeithio fydd fory’.

“Da ni wedi gorfod troi rownd at lot o’n staff a dweud os ydych chi yn medru ffeindio gwaith yn rhyw le arall achos sgynnon ni ddim byd cadarn, plîs ewch i ffeindio gwaith yn rhyw le arall.” 

Mae Newyddion S4C wedi cysylltu gyda chwmni Stena Line am ymateb.

Image
Edward Kirkwood
Mae Edward Kirkwood yn gyd-berchennog Royalty Recruitment gyda'i wraig, Cheryl

'Teimlo'n euog iawn'

Mae Ms Kirkwood yn gyd-berchennog ar ei chwmni gyda’i gŵr, Edward Kirkwood. Mae’n dweud fod y sefyllfa wedi cael “effaith mawr” ar ei busnes a’i theulu. 

“Oherwydd asiantaeth recriwtio ydan ni, da ni very much supply and demand

“Er bod gynnon ni lot o swyddi parhaol, adeg yma o’r flwyddyn efo cludo nwyddau a ballu mae lot o’r gwaith yn dod draw yn reactive… mae lot o hogia ni yn dibynnu ar gwaith fel ‘na i gadw nhw’n fynd felly.

“Da ni’n teimlo’n euog iawn fel cwmni. Yn anffodus oedd tri allan o’r 10 ‘na oedd i fod i cychwyn ar y dydd Llun wedi ymddiswyddo i allu cymryd swydd i ddreifio’n parhaol yn llawn amser hefo ni. 

“Ac yn anffodus da ni yn y sefyllfa rŵan lle ‘di’r swyddi na ddim yn bodoli ddim mwy a da ni’n teimlo’n euog iawn.

“Fel cwmni o Môn sy’n cyflogi pobl lleol… da ni’n teimlo’n euog iawn.” 

Fe ddaw sylwadau Ms Kirkwood ddiwrnod ar ôl i Aelod Seneddol Ynys Môn, Llinos Medi, alw am ‘gymorth brys' gan Lywodraeth y DU i ail-agor y porthladd.

'Pryderus'

Mae Ms Kirkwood wedi dweud ei bod yn pryderu y bydd rhagor o swyddi yn cael eu colli yn yr hirdymor os na fydd y porthladd yn agor yn fuan. 

“Yn bersonol dwi’n poeni’n ofnadwy oherwydd mae’r cwmnïau cludiant yma yn defnyddio porthladdoedd eraill ledled y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd. 

“Dwi jyst yn poeni falle bod nhw am ffeindio bod hyn yn gweithio’n well iddyn nhw fel cwmni, bod hwnna’n avenue bod nhw heb fynd lawr o’r blaen ond actually mae o am weithio’n well.” 

Dywedodd mai dyma yw “cyfnod mwyaf pwysig” y flwyddyn i’w busnes gan ei ddisgrifio fel y “chwarter hudol.” 

“Yr wythnosau prysuraf, dyna di’r cic rili, yr wythnosau prysuraf allan o’r chwarter hudol mae hyn di digwydd.”  

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.