Bwyty poblogaidd yng Nghaerdydd yn rhoi cinio am ddim i'r digartref
Bwyty poblogaidd yng Nghaerdydd yn rhoi cinio am ddim i'r digartref
Bydd un o fwytai mwyaf poblogaidd y brifddinas yn helpu i ddarparu cinio Nadolig am ddim i bobl ddigartref ac eraill mewn angen eleni.
Ers bron i ddwy flynedd, mae perchennog bwyty Eidaleg Giovanni’s yng Nghaerdydd wedi bod yn cydweithio gydag Eglwys Y Tabernacl er mwyn darparu prydau o fwyd poeth i bobl ddigartref.
Ddwywaith yr wythnos mae Giovanni Malacrino a’i staff yn coginio digonedd o basta a thatws i fwydo’r rheiny sydd yn cwrdd yn yr eglwys drws nesaf.
Fel unrhyw ddydd Mercher arall y flwyddyn, fe fydd Mr Malacrino yn paratoi rhai o’i hoff fwydydd ar gyfer 25 Rhagfyr eleni.
Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd y cogydd bod hi'n hollbwysig “rhoi yn ôl ym mywyd.”
“Mae rhoi ychydig o elw i ffwrdd – does ‘na ddim fawr o ots.
“Da ni jyst yn rhoi ychydig o’n helw i ffwrdd gan wybod ei fod ar gyfer achos da,” esboniodd.
Mae’n dweud ei fod yn “gyffrous” i ddathlu diwrnod y Nadolig, yn enwedig gan ei fod o'n helpu i sicrhau y gall pawb “fwynhau pryd o fwyd poeth a chanu ychydig o garolau.”
'Achubiaeth'
Ar gyfartaledd roedd bron i 153 o bobl yn cysgu ar y strydoedd Cymru rhwng mis Ionawr a Medi eleni, yn ôl ffigyrau diweddaraf StatsCymru gan Lywodraeth Cymru.
Ar hyn o bryd mae 23 o bobl yn cysgu ar strydoedd Caerdydd, meddai’r awdurdod lleol.
Un sydd â phrofiad o gysgu ar y stryd ydy ‘Taffy’ o Gaerdydd. Mae’n dweud fod gwasanaeth Giovanni’s a’r Tabernacl yn “achubiaeth” i nifer o bobl.
“Fe allai’r lle ‘ma achub bywyd rhywun, yn wirioneddol,” meddai.
Ag yntau “ar ben fy hun,” dywedodd ei fod yn “edrych ymlaen yn fawr” at gael cinio ‘Dolig yno.
Yn wreiddiol o bentref Hirwaun yng Nghwm Cynon, mae Mark Lawrence hefyd wedi profi’r heriau o gysgu ar y stryd yn y brifddinas.
Mae e ymhlith hyd at 70 o bobl sydd yn ymweld â’r Tabernacl ar y dyddiau y maen nhw’n cynnal y gwasanaeth.
“Os ydych chi’n ddigartref, mae hyn yn lle neis i ddod,” meddai.
“Mae’n gyfeillgar gyda phobl hyfryd yma. Mae’r gwirfoddolwyr yn hyfryd yn ogystal â’r bwyd.”
'Pam fod 'na gymaint dal ar y strydoedd?'
Ers iddo ymddeol mae’r cyn-Weinidog Ifan Roberts o Gaernarfon wedi bod yn gwirfoddoli gyda’r Tabernacl pob pythefnos ers talwm.
Mae’n dweud ei fod wedi synnu gyda'r nifer o bobl sydd yn parhau ar strydoedd Caerdydd.
“Mae rhywun yn meddwl pam bod ‘na gymaint o bobl dal ar y strydoedd. Be’ ‘di polisi Cyngor Caerdydd, sut ma’ nhw yn estyn allan at y bobl yma a darparu gwasanaethau?
“Mae hynny’n gwestiwn mae rhaid ei ofyn yn ddwys i Gyngor Caerdydd ac i Lywodraeth Cymru.”
Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd eu bod wedi ymrwymo i fynd i’r afael â digartrefedd ond eu bod yn wynebu “pwysau parhaus,” yn enwedig yn ystod misoedd oerach y flwyddyn.
Mae'r cyngor yn dweud eu bod wedi paratoi “cynllun cadarn ar gyfer pwysau’r gaeaf” gan gynnwys addasu llety dros dro yn seiliedig ar angen “gan warantu mynediad i lety brys i bawb sydd ei angen.” Mae timau arbenigol hefyd yn “cymryd camau breision i gefnogi preswylwyr llety dros dro,” medden nhw.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn buddsoddi bron £220m er mwyn mynd i’r afael â digartrefedd yng Nghymru.
“Mae mynd i’r afael â digartrefedd a darparu mwy o gartrefi yn flaenoriaeth allweddol i’r llywodraeth hon,” meddai.
'Pobl fel ni'
Mae’r Parchedig Ddoctor Rosa Hunt, sef gweinidog Eglwys Y Tabernacl, yn angerddol tu hwnt dros helpu pobl leol ei hardal.
Roedd yn awyddus i fanteisio ar leoliad Y Tabernacl yng nghanol y ddinas er mwyn gwasanaethu pobl ganol Caerdydd.
Mae’n darparu bwyd i bobl mewn angen dair gwaith yr wythnos, gan dderbyn bwyd gan Giovanni’s ar ddydd Mercher a dydd Sul.
“Yn aml iawn dydy pobl ddim yn sylweddoli taw eglwys yw hon a mae hyn yn hollol iawn achos dydyn ni ddim yn gwneud hynny er mwyn trio perswadio pobl neu ddim byd,” meddai.
Mae’n dweud bod y gwasanaeth yn rhyw le y gallai pobl gael "eu parchu fel pobl” yn ogystal â bod yn “rhyw le i fwyta.”
“Ni’n ymwybodol iawn bod pawb sy’n dod trwy’r drws yn berson fel ni so ni jyst yn trio croesawu pobl.”