Arestio dyn 46 oed wedi ymosodiad honedig yn Llanelli
Mae dyn 46 oed wedi cael ei arestio wedi ymosodiad honedig yn Llanelli nos Sul.
Derbyniodd y llu adroddiad am 18:50 fod dyn wedi ymosod ar fenyw ar Heol Marble Hall.
Fe wnaeth person oedd yn pasio geisio ymyrryd ond fe gawson nhw eu bygwth.
Fe wnaeth y dyn a'r fenyw adael yr ardal.
Cafodd dyn 46 oed ei arestio yn ddiweddarach yn Llys Alys ar amheuaeth o ymosod a bod â llafn yn ei feddiant, ac mae'n parhau yn y ddalfa.
Ychwanegodd yr heddlu y byddai yna bresenoldeb heddlu cynyddol yn yr ardal tra bod ymholiadau yn parhau.
