Y BBC yn ymddiheuro am beidio golygu sylw hiliol gan westai â Tourette's

John Davidson

Mae'r BBC wedi ymddiheuro am beidio golygu sylw hiliol gafodd ei weiddi yn ystod seremoni'r Baftas nos Sul.

Cafodd y sylw ei wneud gan berson gyda'r cyflwr Tourette's pan oedd dau actor du ar y llwyfan.

Fe weiddodd John Davidson air hiliol ar yr actorion Michael B Jordan a Delroy Lindo wrth iddyn nhw gyflwyno gwobr gyntaf y seremoni.

Mae bywyd Davidson wrth dyfu fyny yn yr Alban yn yr 80au gyda Tourette's yn cael ei olrhain yn y ffilm I Swear.

Ni wnaeth y BBC olygu'r foment cyn darlledu'r seremoni Baftas a doedd y rhaglen ddim yn cael ei darlledu'n fyw. 

Fe wnaeth y rhaglen hefyd ymddangos ar BBC iPlayer tan fore dydd Llun.

Mewn datganiad mae'r BBC wedi dweud: "Rydyn ni yn ymddiheuro na chafodd hyn ei olygu cyn cael ei ddarlledu ac fe fydd nawr yn cael ei dynnu allan o'r fersiwn sydd ar BBC iPlayer." 

Mae'r cyflwr Tourette yn golygu bod person yn medru gwneud symudiadau ailadroddus neu synau ailadroddus sydd yn cael eu galw yn tics. Maent yn aml yn cael eu hamlygu trwy hyrddiau fel rhegi uchel.

Fe wnaeth Davidson weiddi sawl gwaith cyn ac yn ystod y seremoni nos Sul.

Fe wnaeth cyflwynydd y seremoni, yr actor Alan Cumming, ymddiheuro yn ystod y seremoni am y rhegfeydd.

Dywedodd Cumming bod "iaith gref" yn medru bod yn rhan o'r cyflwr Tourette. "Diolch am ddeall ac am greu awyrgylch barchus i bawb," meddai Cumming.

Fe adawodd John Davidson y seremoni cyn y diwedd.

'Camgymeriad ofnadwy'

Fe ddywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Kemi Badenoch wrth Good Morning Britain bod y BBC wedi gwneud "camgymeriad ofnadwy" trwy beidio golygu'r sylw.

Yn ôl yr actor Wendell Pierce sydd wedi cyd actio gyda Michael B Jordan mae'n "achos o ddicter mawr mai'r ymateb cyntaf yw ddim ymddiheuriadau llawn a diamwys i Delroy Lindo a Michael B Jordan.

"Nhw sydd yn cael eu sarhau yn gyntaf. Does dim ots am y rhesymeg dros y sarhad hiliol," meddai ar y cyfrwng X.

Ond mae eraill wedi dweud bod rhaid cofio mai rhan o'r cyflwr Tourette's oedd yn gyfrifol am y sylw hiliol.

Mae Robert Aramayo, a gafodd Bafta am ei rôl yn chwarae Davidson yn y ffilm wedi dweud mai "tics" oedd y sylwadau dan sylw. 

Mae'n "rhaid i ni ddeall bod y ffordd rydyn ni yn dirnad Tourette's yn gyfrifoldeb i bawb ohonom ni. Dydy hyn ddim yn ymwneud gyda gweiddi geiriau anweddus, dydy hyn ddim yn ddilornus, Tourette's yw hyn a tics ydyn nhw. 

"Os allith hyn arwain at ddealltwriaeth fwy dwfn o syndrom Tourette's a beth yw union yw tics, os yw ein ffilm ni yn rhan o'r sgwrs hynny, yna mae hynny yn rhywbeth anhygoel," meddai wrth y BBC. 

Mae'r elusen Tourettes Action wedi dweud ei bod yn "deall yn llwyr" y niwed mae sylw hiliol yn ei gael ond maent hefyd yn dweud bod angen dealltwriaeth o'r cyflwr. 

Llun: Ian West/ PA 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.