Ehangu ysbyty yn Y Rhyl er mwyn lleihau'r pwysau ar Glan Clwyd
Bydd ysbyty cymunedol yn Y Rhyl yn cael ei ehangu er mwyn cynnig uned mân anafiadau yn y dyfodol.
Yn ôl Llywodraeth Cymru bydd y buddsoddiad o £33m yn lleihau'r pwysau ar adran frys Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan gerllaw.
Mae disgwyl i Ysbyty Brenhinol Alexandra hefyd gael cyfleusterau er mwyn medru helpu rhai cleifion sy'n paratoi i fynd adref ar ôl cael llawdriniaeth neu driniaeth feddygol.
Bydd 14 o welyau yn rhan o'r adeilad newydd.
Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr mewn mesurau arbennig ers mis Chwefror 2023 wedi pryderon am ddiogelwch cleifion, llywodraethu a pherfformiad.
Y llynedd fe ddywedodd y llywodraeth bod gan y bwrdd iechyd "le pell i fynd" cyn y byddai modd lleihau'r ymyrraeth.
Y bwriad wrth ehangu'r ysbyty yn Y Rhyl yw bod yr adeilad newydd yn cael ei adeiladu erbyn y flwyddyn nesaf.
Mae yna hefyd gynlluniau i wella a datblygu'r ysbyty presennol gyda'r achos busnes i wneud hyn yn cael ei gyflwyno ar wahân gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Gyda'r adeilad newydd a'r gwelliannau i'r ysbyty mae £60m wedi ei rhoi ar gyfer y gwaith.
Mae disgwyl i wasanaethau radioleg gael eu hehangu yn Y Rhyl hefyd, a bydd pedair ystafell ddeintyddol newydd yno.
Dywedodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan: "Bydd y buddsoddiad hirdymor hwn mewn gwasanaethau iechyd yn y Rhyl yn lleihau'r amser y mae pobl yn aros yn yr adran argyfwng, yn cynyddu nifer y cleifion mewnol, ac yn galluogi pobl i ddychwelyd adref yn gynt ar ôl cael triniaeth yn yr ysbyty.
"Mae'r buddsoddiad hwn yn rhan o'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i drawsnewid gwasanaethau gofal iechyd yn y Gogledd, drwy foderneiddio cyfleusterau, a gwella effeithlonrwydd er mwyn i bobl allu cael eu trin yn nes at adref."
Ychwanegodd y Gweinidog Iechyd, Jeremy Miles: "Mae'r Rhyl yn gyrchfan wyliau boblogaidd, sy'n golygu bod gwasanaethau'r GIG yn gweithio'n galed i ddiwallu anghenion trigolion lleol ac ymwelwyr drwy gydol y flwyddyn.
"Bydd y cyllid yn darparu uned newydd wych ar gyfer mân anafiadau ac anhwylderau, yn ogystal ag uned ail-alluogi newydd sy'n dod â gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol at ei gilydd o dan yr un to.
"Bydd hynny'n helpu pobl i wella a theimlo'n hyderus eu bod yn cael y cymorth angenrheidiol i ddychwelyd adre'."
Llun: Llywodraeth Cymru
