Arestio Peter Mandelson ar amheuaeth o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus
Mae Peter Mandelson wedi ei arestio ar amheuaeth o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus yn ôl Heddlu'r Met.
Fe gyhoeddodd Mr Mandelson ddechrau Chwefror ei fod wedi penderfynu gadael Tŷ'r Arglwyddi.
Roedd y pwysau'n cynyddu ar Mandelson yn sgil gwybodaeth newydd a gyhoeddwyd yn yr Unol Daleithiau am ei berthynas â'r troseddwr rhyw, Jeffrey Epstein.
Mae honiadau fod Peter Mandelson wedi trosglwyddo gwybodaeth sensitif i Epstein, tra roedd e'n weinidog yn Llywodraeth Lafur Gordon Brown.
Daeth hynny i'r amlwg ar ôl i Adran Gyfiawnder America gyhoeddi mwy na thair miliwn o ddogfennau yn ymwneud ag Epstein.
Mewn datganiad ddydd Llun, dywedodd Heddlu'r Met fod "swyddogion wedi arestio dyn 72 oed ar amheuaeth o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus.
"Cafodd ei arestio mewn cyfeiriad yn Camden ddydd Llun, 23 Chwefror a'i gludo i orsaf heddlu yn Llundain i gael ei gyfweld.
"Daw hyn wedi gwarantau chwilio mewn dau gyfeiriad yn ardaloedd Wiltshire a Camden."
Rhagor i ddilyn.

