Caernarfon: Cynllun 'arloesol' i droi hen swyddfeydd yn llety i'r digartref
Caernarfon: Cynllun 'arloesol' i droi hen swyddfeydd yn llety i'r digartref
Fe allai cynllun yng Nghaernarfon i droi hen swyddfeydd Llywodraeth Cymru yn unedau i'r digartref fod yn “arloesol”, yn ôl Cyngor Gwynedd.
Fe gafodd Swyddfeydd y Goron, sydd wedi bod yn wag ers 2018, eu prynu gan yr awdurdod yn 2024.
Y bwriad ydi sefydlu 37 uned breswyl fyddai’n cynnig "cartrefi safonol" wrth i bobl aros am lety parhaol.
Mae disgwyl i’r gwaith gostio rhwng £12m- £14m i’w hadnewyddu.
Rhwng 2024 a 2025 fe wnaeth 956 o bobl gofrestru’n ddigartref gyda Chyngor Gwynedd gyda 205 o aelwydydd yn byw mewn llety "argyfwng anaddas" fel gwestai neu wely a brecwast.
Mae 543 o ymgeiswyr hefyd ar restr am dai cymdeithasol yn ardal Caernarfon eisoes.
'Arloesol'
Yn ôl y Cynghorydd Paul Rowlinson sy’n ddeilydd portffolio tai ar Gyngor Gwynedd, mae'r cynllun yn gwneud defnydd o hen adeilad tra hefyd yn rhan o’r ateb i broblemau digartrefedd y sir.
“Mae o yn arloesol," meddai wrth raglen Newyddion S4C.
“Mae’r swyddfa wedi bod yn wag ers bron i ddegawd rwan a dio ddim yn ddel iawn a mae na goncrit ym mhob man.
“Mae ‘na storiau o agweddau gwrthgymdeithasol yn digwydd fel sydd yn aml yn digwydd mewn adeiladau gwag felly mi fydd yn adfywio tre' Caernarfon."
Y bwriad ydi codi 25 o fflatiau un ystafell wely, 10 fflat dwy ystafell wely a dau o fflatiau tair ystafell wely.
Tra bod rhai mewn cartrefi cyfagos yn poeni am effaith y datblygiad, mynnu mae’r cyngor na fydd unrhyw un gydag anghenion dwys yn cael eu cartrefu yno.
Mi fyddai cyfleusterau chwarae i blant hefyd yn yr ardd.
Gyda bron i 11,000 o bobl drwy Gymru yn byw mewn llety dros dro ac wedi cofrestru’n ddi-gartref mae Shelter Cymru yn dweud bod lle i gynghorau fel hyn feddwl yn greadigol.
“Mae’n rhaid i gynghorau fod yn ddyfeisgar," meddai Heddyr Gregory o’r elusen.
“Mae’n rhaid edrych ar y stoc tai sydd ganddyn nhw ac ar y stoc o adeiladau sydd ganddyn nhw a meddwl be 'di’r defnydd gorau posib allwn ni wneud i rhain er mwyn lleddfu rhywfaint ar yr argyfwng tai a darparu llefydd i bobl fyw."
Mae gan drigolion yng Nghaernarfon tan 11 Mawrth i fynegi barn ar y cynllun hwn yn ardal Penrallt.
Os yn cael ei gymeradwyo y disgwyl yw y gallai gymryd hyd at 18 mis i gwblhau’r gwaith.
