Newyddion S4C

'Gwener Gwallgof': Rhybudd i yfed yn gyfrifol

NS4C

Wrth i ddathliadau 'Dydd Gwener Gwallgof' neu 'Mad Friday' agosáu mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn galw ar bobl i yfed yn gyfrifol er mwyn osgoi "rhoi pwysau" ar y gwasanaeth.

Dywedodd y gwasanaeth ambiwlans fod cynnydd o bron 20% mewn galwadau 999 ar ddydd Gwener y dathlu'r llynedd.

Roedd hynny'n golygu mwy na 200 o alwadau ychwanegol i 999 a 111.

Yn ôl Jonathan Edwards, Cyfarwyddwr Cynorthwyol y Gwasanaeth Ambiwlans  gall delio gyda galwadau sy'n gysylltiedig gydag alcohol olygu oedi i alwadau "bywyd neu farwolaeth."

“Mae partïon a chwrdd â ffrindiau a theulu yn rhan fawr o’r adeg hon o’r flwyddyn, sydd yn ei dro yn rhoi pwysau ar wasanaethau ambiwlans, yr heddlu a'r gwasanaeth tân.

“Mae’n hawdd anghofio faint o alcohol rydych chi wedi’i yfed pan rydych chi’n mwynhau eich hun. Ond tra rydyn ni’n delio â digwyddiadau sy’n gysylltiedig ag alcohol, mae’n bosibl y byddwn ni’n cael ein hoedi cyn trin rhywun sydd mewn sefyllfa o fywyd neu farwolaeth.

“Dydyn ni ddim yn ceisio rhwystro'r hwyl ond rydyn ni’n gofyn i’r cyhoedd yfed yn gyfrifol a mwynhau eu hunain yn ddiogel.”

Y llynedd, fe dderbyniodd y gwasanaeth 1,250 o alwadau 999 ar y dydd Gwener olaf cyn y Nadolig a 1,932 o alwadau pellach i’w gwasanaeth 111.

Mae'r gwasanaeth yn gofyn i bobl i ffonio 999 pan mae'n "briodol yn unig" ac i ffonio 111 os nad yw'r argyfwng difrifol neu'n bygwth bywyd.
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.