Euogfarnau Michael Stone am lofruddio Lin a Megan Russell i gael eu hadolygu

07/10/2023
Michael Stone

Mae euogfarnau Michael Stone am lofruddio Lin Russell a'i merch Megan ym 1996 yn cael eu hadolygu eto gan y Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol.

Daw’r newyddion ar ôl adroddiadau bod y llofrudd Levi Bellfield, a lofruddiodd y ferch ysgol Milly Dowler, wedi cyfaddef i’r troseddau.

Mae’r cyhoeddiad gan y Comisiwn, dri mis yn unig ar ôl i adolygiad blaenorol ddiystyru anfon yr achos i’r Llys Apêl, wedi’i groesawu gan Mark McDonald, bargyfreithiwr Stone.

Dywedodd y Comisiwn mewn datganiad: “Bydd euogfarnau llofruddiaeth Michael Stone yn cael eu hadolygu eto gan y Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol yn dilyn cais gan ei gynrychiolwyr.

“Yn 2001, cafodd Mr Stone ei ddedfrydu i garchar am oes yn Llys y Goron Nottingham am lofruddio Dr Lin Russell a’i merch chwe blwydd oed Megan, a cheisio llofruddio merch naw oed Dr Russell, Josie, ym 1996.

“Ni chanfu adolygiadau blaenorol y CCRC unrhyw dystiolaeth neu ddadl gredadwy a gododd y posibilrwydd gwirioneddol o ddileu’r euogfarnau, ac nid yw’r adolygiad newydd yn effeithio ar y casgliadau hyn.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.