Newyddion S4C

Cipolwg ar benawdau'r bore

08/06/2021
Y Penawdau [NS4C]
NS4C

Bore da gan dîm Newyddion S4C.

Dyma ein penawdau ar fore dydd Mawrth, 8 Mehefin.

Ben Cabango: ‘Hiliaeth wedi lladd y profiad o gynrychioli Cymru am y tro cyntaf’

Mae chwaraewr pêl-droed dros Gymru wedi disgrifio sut wnaeth sylwadau hiliol yn ei erbyn “ladd” y profiad o gynrychioli ei wlad am y tro cyntaf. Cafodd Ben Cabango, 21 oed, negeseuon hiliol ar ei gyfrif Instagram yn dilyn buddugoliaeth Cymru dros Mecsico ym mis Mawrth.

Heddlu’r Gogledd yn lansio ymgyrch i atal trais yn erbyn merched

Mae Heddlu’r Gogledd wedi lansio arolwg cyhoeddus i geisio gwella diogelwch i ferched yn yr ardal. Bydd ymatebion yr arolwg yn cael eu defnyddio i ffurfio ymgyrch ‘Llais yn Erbyn Trais’ y llu, ac yn “siapio” cynlluniau a dull yr heddlu wrth geisio mynd i’r afael â’r mater.

UDA yn cymeradwyo meddyginiaeth Alzheimer’s newydd

Mae swyddogion iechyd yn yr Unol Daleithiau wedi cymeradwyo'r feddyginiaeth newydd, y cyntaf ers bron i 20 mlynedd, sydd wedi cael ei ddisgrifio fel "carreg filltir fawr".

Teithwyr yn teimlo 'wedi'u twyllo' wrth gyrraedd adref o Bortiwgal

Gyda Phortiwgal wedi symud i restr deithio oren y DU, mae teithwyr yn teimlo "wedi'u twyllo" am y newid mewn cyfyngiadau. Yn ôl Sky News, roedd prysurdeb yn y meysydd awyr wrth i deithwyr geisio eu gorau i guro'r terfyn amser o 04.00 bore dydd Mawrth, sy'n golygu bod unrhyw un oedd yn cyrraedd wedi hynny yn gorfod hunan-ynysu am 10 diwrnod ar ôl cyrraedd y DU.

Chwe mis o frechu yn erbyn Covid-19

Mae dydd Mawrth yn nodi chwe mis ers dechrau ar y gwaith o ddosbarthu brechlyn Covid-19 yn y Deyrnas Unedig. Margaret Keenan, 91 o Coventry, oedd y person cyntaf yn y byd i dderbyn y brechlyn Pfizer nôl ar 8 Rhagfyr 2020 – gyda Craig Atkins o Lyn Ebwy, y person cyntaf yng Nghymru. Bellach, mae 1,249,268 o bobl wedi’u brechu yn llawn yng Nghymru, a 2,183,455 wedi derbyn y dos cyntaf.

Dilynwch ddatblygiadau diweddaraf ar ap a gwefan Newyddion S4C drwy gydol y dydd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.