Chwe mis o frechu yn erbyn Covid-19
Mae dydd Mawrth yn nodi chwe mis ers dechrau ar y gwaith o ddosbarthu brechlyn Covid-19 yn y Deyrnas Unedig.
Erbyn hyn, mae 40,460,576 o bobl wedi derbyn eu dos cyntaf o’r brechlyn, gyda 27,921,294 wedi’u brechu yn llawn.
Yng Nghymru, sydd â chyfradd brechu uchaf y Deyrnas Unedig, mae 1,249,268 wedi’u brechu yn llawn, a 2,183,455 wedi derbyn y dos cyntaf.
Margaret Keenan, 91 o Coventry, oedd y person cyntaf yn y byd i dderbyn y brechlyn Pfizer nôl ar 8 Rhagfyr 2020 – gyda Craig Atkins o Lyn Ebwy, y person cyntaf yng Nghymru.
Ers hynny, mae brechlynnau Pfizer/BioNTech a Oxford/ Astrazeneca wedi cael eu dosbarthu i filoedd ledled y wlad.
Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn y de ddwyrain sydd wedi brechu’r rhan fwyaf o gleifion, gan ddosbarthu 611,622 dos.
Mae 739,462 dos wedi cael eu dosbarthu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, a 492,615 gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.
Gyda chartrefi gofal yn gweld y gwaethaf o’r pandemig, mae 93% o breswylwyr bellach wedi’u brechu’n llawn yn erbyn Covid-19.
Wrth annerch gwleidyddion yn Nhŷ’r Cyffredin dydd Llun, dywedodd Gweinidog Iechyd San Steffan, Matt Hancock, eu bod nhw’n dechrau cynnig brechlyn i rai rhwng 25 a 29 o ddydd Mawrth.
Yng Nghymru, mae dros hanner pobl rhwng 18 a 29 eisoes wedi derbyn dos cyntaf o’r brechlyn.
Dydd Llun, dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, fod disgwyl i bawb dros 18 dderbyn o leiaf un dos erbyn canol mis Mehefin.
Gydag amrywiolion yn datblygu trwy gydol y pandemig, mae pwysau nawr i bawb dderbyn y brechlyn – gyda disgwyl i Boris Johnson annog arweinwyr eraill i ymrwymo i’r nod o sicrhau fod holl ddinasyddion y byd wedi’u brechu’n llawn erbyn diwedd 2022 yn uwch gynhadledd y G7 ddydd Gwener.