Newyddion S4C

Ben Cabango: ‘Hiliaeth wedi lladd y profiad o gynrychioli Cymru am y tro cyntaf’

08/06/2021

Ben Cabango: ‘Hiliaeth wedi lladd y profiad o gynrychioli Cymru am y tro cyntaf’

Mae chwaraewr pêl-droed dros Gymru wedi disgrifio sut wnaeth sylwadau hiliol yn ei erbyn “ladd” y profiad o gynrychioli ei wlad am y tro cyntaf.

Cafodd Ben Cabango, 21 oed, negeseuon hiliol ar ei gyfrif Instagram yn dilyn buddugoliaeth Cymru dros Mecsico ym mis Mawrth.

Mae Cymdeithas Pêl-droed Cymru wedi condemnio hiliaeth ar-lein ers hynny.

Yn uchafbwynt ei yrfa hyd yma, dyna’r tro cyntaf iddo gynrychioli Cymru mewn gêm lawn.

Ond buan wedi’r chwiban olaf, daeth y teimlad o hapusrwydd a balchder i ben wrth iddo weld negeseuon hiliol ar ei gyfryngau cymdeithasol.

Image
Ben Cabango
Llun: S4C

Yn siarad mewn rhaglen ddogfen, Y Brodyr Cabango, ar S4C, mae amddiffynnwr yr Elyrch yn dweud ei fod wedi “disgwyl” cael ei dargedu’n hiliol.

Meddai: “Y worst thing oedd o fi yn expectio y negeseuon o ni wedi cael oherwydd does na ddim accountability na consequences ar ôl i bobol ddweud pethe fel hyn.”

Serch hynny, mae’n disgrifio fod y profiad yn un “hollol newydd”, gan fod ef a’i frawd Theo, sy’n chwaraewr rygbi, erioed wedi wynebu hiliaeth o’r blaen.

Digwyddiad 'siomedig'

Mae tad Ben, Paulo, sy’n hanu o Angola yn wreiddiol, yn disgrifio’r digwyddiad fel un “siomedig”.

Wrth drafod gyda’i dad, mae Ben yn dweud fod y sylwadau wedi “lladd” y profiad “gwefreiddiol” o gynrychioli ei wlad am y tro cyntaf.

Mae Facebook, sy’n berchen ar gwmni Instagram, eisoes wedi dweud eu bod nhw wedi dileu'r cyfrifon a wnaeth yrru’r negeseuon hiliol.

Ond dyw Cabango ddim yn ffyddiog fod y system honno’n gweithio.

Meddai: “Fi jyst ddim yn gweld sut mae'n mynd i stopio, achos yn amlwg gan nad yw ti angen rhoi unrhyw fanylion fewn i wirio, mae pobol jyst yn mynd i ‘neud cyfrifon newydd bob tro a dweud y pethau ma eto.”

Rhai wythnosau wedi’r digwyddiad, cafodd boicot o’r cyfryngau cymdeithasol ei gefnogi gan sawl corff a chlybiau chwaraeon ar hyd y Deyrnas Unedig i wrthwynebu camdriniaeth a gwahaniaethu ar-lein.

Roedd tîm Cabango, yr Elyrch, ymhlith y cefnogwyr, yn ogystal â’r Brif Gynghrair ac Undeb Rygbi Cymru.

Gallwch wylio Y Brodyr Cabango: Dau Frawd Dwy Gêm, 21:00 nos Fawrth 8 Mehefin ar S4C.

Llun: Asiantaeth luniau Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.