Newyddion S4C

Teithwyr yn teimlo 'wedi'u twyllo' wrth gyrraedd adref o Bortiwgal

Sky News 08/06/2021
Teithwyr

Gyda Phortiwgal wedi symud i restr deithio oren y DU, mae teithwyr yn teimlo "wedi'u twyllo" am y newid mewn cyfyngiadau. 

Yn ôl Sky News, roedd prysurdeb yn y meysydd awyr wrth i deithwyr geisio eu gorau i guro'r terfyn amser o 04.00 bore dydd Mawrth, sy'n golygu bod unrhyw un oedd yn cyrraedd wedi hynny yn gorfod hunan-ynysu am 10 diwrnod ar ôl cyrraedd y DU.

Mewn rhai achosion, roedd teithwyr wedi gwario cannoedd o bunnoedd er mwyn cael seddi ar yr awyrennau.

Wrth siarad â Sky News, dywedodd Danny Humphries oedd newydd lanio nôl o Faro: "Pan adawon ni, roedden nhw'n dweud na fyddai unrhyw beth yn newid cyn 10 Mehefin.

"Ac yn amlwg, roedden ni allan yno ar gyfer ein gwyliau teuluol, yna fe wnaethon nhw ei newid i'r 7fed... Rwy'n teimlo wedi'n nhwyllo."

Dywedodd yr Adran Drafnidiaeth eu bod wedi cael eu gorfodi i weithredu’n gyflym wrth dynnu Portiwgal oddi ar y rhestr deithio werdd yn dilyn eu dadansoddiad o achosion Covid-19.

Darllenwch y stori'n llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.