Heddlu’r Gogledd yn lansio ymgyrch i atal trais yn erbyn merched
Mae Heddlu’r Gogledd wedi lansio arolwg cyhoeddus i geisio gwella diogelwch i ferched yn yr ardal.
Bydd ymatebion yr arolwg yn cael eu defnyddio i ffurfio ymgyrch ‘Llais yn Erbyn Trais’ y llu, ac yn “siapio” cynlluniau a dull yr heddlu wrth geisio mynd i’r afael â’r mater.
Mae’r arolwg, sy’n gwbl anhysbys, yn agored tan 2 Gorffennaf.
Cafodd y cyhoeddiad ei groesawu gan Brif Weithredwr Canolfan Gymorth Trais a Cham-drin Rhywiol Gogledd Cymru.
Mae marwolaeth Sarah Everard ym mis Mawrth 2021 yn cael ei gyfeirio ato wrth gyhoeddi’r arolwg.
Mae’r heddwas, Wayne Counzens, wedi’i gyhuddo o lofruddio a herwgipio Ms Everard.
Dywedodd yr Uwch-arolygydd Jason Devonport: “Yn dilyn digwyddiad trasig marwolaeth Sarah Everard yn gynharach eleni, rydym wedi gweld menywod ledled y DU yn dod ymlaen gyda straeon o deimlo’n anniogel, neu o gael eu haflonyddu.
“Mae'r ffaith bod hyn wedi dod mor gyffredin yn ein cymdeithas yn annerbyniol a rhaid ei herio.
“Rydyn ni wedi creu’r arolwg hwn i wirioneddol wrando ar yr hyn sydd gan fenywod a merched yn ein cymunedau i’w ddweud am eu profiadau personol, a hefyd i wrando ar ba mor ddiogel maen nhw’n teimlo wrth fyw yng ngogledd Cymru ar hyn o bryd.
"Rydym yn annog cymaint o fenywod â phosibl i gwblhau'r arolwg,” meddai.
Mae Jane Ruthe, Prif Weithredwr Canolfan Gymorth Trais a Cham-drin Rhywiol Gogledd Cymru, wedi dweud ei bod yn “croesawu ac yn cefnogi’r arolwg”.
Mae modd cwblhau’r arolwg yn Gymraeg neu’n Saesneg.