UDA yn cymeradwyo meddyginiaeth Alzheimer’s newydd
Mae gobaith y gallai miloedd o bobl ym Mhrydain gael mynediad at feddyginiaeth newydd ar gyfer clefyd Alzheimer's.
Mae swyddogion iechyd yn yr Unol Daleithiau wedi cymeradwyo'r feddyginiaeth newydd, y cyntaf ers bron i 20 mlynedd, sydd wedi cael ei ddisgrifio fel "carreg filltir fawr".
Ond, yn ôl The Indepentent, mae gwyddonwyr yn parhau i fod yn rhanedig dros effaith lawn 'aducanumab', gyda nifer o arbenigwyr yn galw am fwy o dreialon i gadarnhau ei effeithlonrwydd.
Er hynny, mae cymeradwyo'r cyffur yn dal i gael ei ystyried fel "cam hanfodol ymlaen" wrth drin pobl gydag Alzheimer's cynnar.
Mae elusennau blaenllaw yn y DU wedi galw ar y llywodraeth i flaenoriaethu a chyflymu ymchwil i 'aducanumab', cyffur a allai gael ei ddefnyddio gan o leiaf 100,000 o bobl ym Mhrydain sy'n byw gyda’r cyflwr.
Darllenwch y stori'n llawn yma.