Newyddion S4C

Cynghorydd yn ymddiswyddo er mwyn gwireddu ‘breuddwyd gydol oes’ ar ôl diagnosis o ganser y fron

Anita Cartwright

Mae cynghorydd ym Mhowys wedi rhoi’r gorau i’w swydd er mwyn gwireddu “breuddwyd gydol oes” o ffermio wedi iddi gael diagnosis o ganser y fron.

Cafodd Anita Cartwright ei hethol fel aelod y Democratiaid Rhyddfrydol gan gynrychioli Tal-y-bont ar Wysg ym mis mai 2022.

Ond wedi iddi gael “ail gyfle” ar ôl y canser dywedodd ei bod wedi penderfynu newid “cwrs fy mywyd”.

“Mae’n teimlo ychydig yn drist fy mod i wedi dod i’r penderfyniad i ymddiswyddo,” meddai.

“Mae’r 18 mis diwethaf wedi bod yn roller-coaster wedi i mi gael diagnosis annisgwyl o ganser y fron ar ôl yr etholiad.

“Rydw i’n teimlo fy mod i wedi cael ail gyfle nawr ac eisiau newid cwrs fy mywyd.”

Dywedodd fod bod yn gynghorydd wedi “rhoi pwysau” arni a’r diagnosis o ganser y fron wedi bod yn “drawmatig”.

O ganlyniad roedd parhau yn gynghorydd yn “lwybr annoeth,” meddai.

“Rydw i felly wedi penderfynu blaenoriaethu fy mreuddwyd gydol oes o ffermio ac adfer natur ar ein tyddyn,” meddai.

“Fe fyddaf hefyd yn mwynhau rhodd blynyddoedd ieuengaf ein plant.”

Ychwanegodd bod cael bod yn gynghorydd wedi bod yn “fraint”’ a’i bod hi’n dymuno’r gorau i’w hetholwyr.

Hysbysiad

Mae penderfyniad Anita Cartwright yn golygu bod cynghrair y Democratiaid Rhyddfrydol a chynghorwyr Llafur ar Gyngor Powys wedi ei wanhau.

Mae’n golygu mai 19 o’r 24 o Ddemocratiaid Rhyddfrydol ac etholwyr ym mis Mai 2022 sydd ar ôl.

Fis diwethaf fe ymddiswyddodd y cynghorwyr Matt a Sarah-Jane Beecham ar ôl symud i Sir Benfro.

Mae hysbysiad am isetholiad bellach wedi ei gyhoeddi a bydd angen cyflwyno enwebiadau erbyn dydd Gwener, 13 Hydref.

Byddai unrhyw etholiad yn digwydd ar ddydd Iau, 9 Tachwedd.

Ward Tal-y-bont ar Wysg yw lleoliad Fferm Gilestone a fu ynghanol ffrae ynglŷn â gŵyl The Green Man.

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru wario £4.25m ar gyfer prynu fferm Gilestone ar gyfer lleoliad newydd i'r ŵyl, ac fe wnaeth cwestiynau godi am y berthynas rhwng gweinidogion a lobïwyr yn dilyn y cyfarfod anffurfiol ym mis Mai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.