Menter gymunedol yn cyrraedd y targed i brynu Tafarn yr Eagles yn Llanuwchllyn

05/10/2023
eagles

Mae menter gymunedol i brynu tafarn yr Eagles yn Llanuwchllyn wedi cyrraedd ei tharged ariannol. 

Mae cyfanswm o £428,000 wedi ei gasglu, gan gynnwys £300,000 mewn siariau a grant o £128,000 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, gyda chefnogaeth Cyngor Gwynedd.

Mae'r dafarn yn ganolog i gymuned pentref Llanuwchllyn ac fe gafodd menter gymunedol ei sefydlu yn gynharach eleni i sicrhau fod y dafarn yn parhau ar agor wedi i'r perchnogion presennol gyhoeddi eu hymddeoliad ar ôl cyfnod o 20 mlynedd yn ei rhedeg.

Image
siop eagles
Mae siop yr Eagles yn ganolog i'r gymuned.

Un o brif amcanion y fenter hefyd oedd sicrhau bod y Gymraeg yn "greiddiol i bob gwasanaeth a darpariaeth" a bod unrhyw elw yn cael ei ail-fuddsoddi yng nghymuned Llanuwchllyn.

Dywedodd y dafarn fod hyn yn golygu ei bod bellach yn gallu penodi tenantiaid i redeg y bar, bwyty a'r siop "cyn y Nadolig".

Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol ddydd Iau, dywedodd y dafarn bod y "diolch yn gyfan-gwbl i chi, y gymuned, ein cyfeillion yng Nghymru ac ar draws y byd am gyfrannu £300,000 mewn siariau.

"Gorchwyl anhygoel!" medden nhw.

"Rydym hefyd yn ddiolchgar i gyfranwyr ein grantiau gan gynnwys £128,000 o gronfa Ffyniant Cyffredinol Llywodraeth DU gyda chefnogaeth Cyngor Gwynedd," ychwanegodd. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.