Cwpan y Byd 2030 i gael ei chynnal ar draws tri chyfandir
Bydd Cwpan y Byd 2030 yn cael ei chynnal ar draws tri chyfandir yn ôl FIFA.
Mae Sbaen, Portiwgal a Moroco wedi cael eu henwi fel y gwledydd a fydd yn cynnal y bencampwriaeth, gyda Uruguay, yr Ariannin a Paraguay yn cynnal y dair gêm agoriadol.
Bydd y gemau agoriadol yn Ne America yn nodi canmlwyddiant y gystadleuaeth.
Bydd y penderfyniad yn cael ei gadarnhau mewn cyngres FIFA y flwyddyn nesaf.
Cadarnhaodd FIFA hefyd mai dim ond ceisisdau gan wledydd yng Nghonffederasiwn Bêl-droed Asia a Chonffederasiwn Bêl-droed Oceania fydd yn cael eu hystyried ar gyfer y gystadleuaeth yn 2034.
Y disgwyl yw mai Montevideo yn Uruguay fydd yn cynnal y gêm agoriadol yn 2030, wedi i’r ddinas hefyd gynnal gêm gyntaf Cwpan y Byd ym 1930, gyda’r ddwy gêm nesaf yn yr Ariannin a Paraguay.
Bydd gweddill y gystadleuaeth yn cael ei chynnal yng ngogledd Affrica ac Ewrop.