Newyddion S4C

Y Ceidwadwyr am godi oedran cyfreithlon ysmygu o flwyddyn bob blwyddyn

04/10/2023
ysmygu

Fe ddylai’r oedran cyfreithlon ar gyfer prynu tybaco godi bob blwyddyn er mwyn atal pobl ifanc rhag dechrau ysmygu, meddai'r Prif Weinidog Rishi Sunak ddydd Mercher.

Dywedodd hefyd y byddai ei lywodraeth yn mynd i’r afael â gwerthu fêps i blant.

Dywedodd Mr Sunak fod yn rhaid gwneud mwy i “geisio atal pobl ifanc yn eu harddegau rhag defnyddio sigaréts yn y lle cyntaf” wrth iddo osod cynlluniau i gyflwyno deddf newydd yn gwahardd gwerthu tybaco i unrhyw un gafodd eu geni ar neu ar ôl 1 Ionawr 2009.

Dywedodd wrth gynhadledd y Blaid Geidwadol ym Manceinion “na fyddai sigarét fyth yn cael ei werthu’n gyfreithlon i blentyn sydd yn 14 oed heddiw”, o dan ddeddfwriaeth newydd i Loegr.

Dywedodd Mr Sunak hefyd fod yn rhaid gwneud mwy i “gyfyngu ar argaeledd” fêps i blant.

“Os ydym am wneud y peth iawn i’n plant, rhaid i ni geisio atal pobl ifanc yn eu harddegau rhag cymryd sigaréts yn y lle cyntaf,” meddai.

“Oherwydd heb newid sylweddol bydd miloedd o blant yn dechrau ysmygu yn y blynyddoedd i ddod ac fe fydd eu bywydau’n cael eu torri’n fyr o ganlyniad.”

Ychwanegodd: “Rwy’n cynnig ein bod yn codi’r oedran ysmygu o flwyddyn bob blwyddyn yn y dyfodol.

Dywedodd Mr Sunak: “Mae pobl yn cymryd sigaréts pan maen nhw'n ifanc - mae pedwar o bob pump o ysmygwyr wedi dechrau erbyn eu bod yn 20.

“Yn ddiweddarach mae’r mwyafrif helaeth yn ceisio rhoi’r gorau iddi. Ond mae llawer yn methu oherwydd eu bod yn gaeth ac yn dymuno nad oeddent erioed wedi dechrau'r arferiad yn y lle cyntaf.

“Ac os gallwn dorri’r cylch hwnnw, os gallwn atal dechrau, yna byddwn ar ein ffordd i ddod ag achos mwyaf marwolaeth ac afiechyd y mae modd eu hatal yn ein gwlad i ben.”

Dywedodd y bydd y bleidlais ar y cynnig yn y Senedd yn “bleidlais rydd” a’i fod yn “fater cydwybod” i Aelodau Seneddol.

Dywedodd Llafur na fydd y blaid “yn chwarae gwleidyddiaeth ag iechyd cyhoeddus” ac y byddai’n “benthyg” y pleidleisiau i’r Prif Weinidog er mwyn i’r gyfraith gael ei phasio.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.