Heddlu yn cynnal ymchwiliad dynladdiad corfforaethol yn yr ysbyty lle gweithiodd Lucy Letby
Mae Heddlu Sir Gaer wedi cyhoeddi eu bod yn cynnal ymchwiliad dynladdiad corfforaethol yn yr ysbyty lle roedd y llofrudd plant, Lucy Letby yn nyrs.
Cafodd Letby, 33, ei dedfrydu i garchar am oes ar ôl i reithgor ei chael yn euog o lofruddiaethau saith o fabanod ac o geisio llofruddio chwech arall yn uned newyddanedig Ysbyty Iarlles Caer yn 2015 a 2016.
Daeth cadarnhad gan y llu ddydd Mercher y bydd yr ymchwiliad yn canolbwyntio ar y cyfnod rhwng Mehefin 2015 a Mehefin 2016.
Dywedodd y Ditectif Prif Arolygydd Simon Blackwell: “Yn dilyn achos hirfaith, yr euogfarn yn erbyn Lucy Letby yn ddiweddarach ac asesiad gan uwch swyddogion ymchwilio, gallaf gadarnhau fod Cwnstabliaeth Sir Gaer yn dechrau ymchwiliad i ddynladdiad corfforaethol yn Ysbyty Iarlles Gaer.
“Bydd yr ymchwiliad yn canolbwyntio ar gyfnod y cyhuddiadau yn erbyn Lucy Letby, rhwng Mehefin 2015 a Mehefin 2016, ac fe fydd yn edrych ar agweddau fel uwch-arweinyddiaeth a’r penderfyniadau a wnaed, er mwyn penderfynu a oes unrhyw droseddau wedi eu cyflawni.
“Ar hyn o bryd, nid ydym yn ymchwilio i unrhyw unigolion mewn perthynas â dynladdiad drwy esgeulustod difrifol.
“Mae’n gynnar iawn yn yr ymchwiliad ac nid ydym yn gallu ehangu ar unrhyw fanylion neu ateb unrhyw gwestiynau penodol ar hyn o bryd.
“Rydym yn cydnabod y bydd yr ymchwiliad yn cael effaith sylweddol ar nifer o bobl, gan gynnwys y teuluoedd yn yr achos hwn, ac rydym yn parhau i weithio gyda nhw a'u cefnogi yn ystod y broses.”
Fis diwethaf, cyflwynodd Lucy Letby ei hapêl yn erbyn y dyfarniadau, ac mae disgwyl iddi wynebu achos llys arall y flwyddyn nesaf ar gyhuddiad o geisio llofruddio merch fach.