Carchar i lanc am ddwyn oriawr Rolex Aled Jones a'i fygwth â machete
Mae bachgen yn ei arddegau wedi ei garcharu ar ôl iddo fygwth y canwr a'r cyflwynydd Aled Jones gyda machete a dwyn ei oriawr Rolex gwerth £17,000.
Roedd y bariton 52 oed yn cerdded ar brif stryd yn ardal Chiswick yng ngorllewin Llundain gyda’i fab ar 7 Gorffennaf pan ymosododd y bachgen 16 oed arno.
Ar ôl sylwi ar y Rolex ar arddwrn Mr Jones, cododd y machete a dweud wrtho i dynnu'r oriawr.
Pan sylwodd y canwr fod y llanc yn dal i’w ddilyn o bell ar ôl rhoi ei Rolex iddo, fe ddywedodd y llanc wrtho i gerdded i'r cyferiad arall neu fe fyddai'n "torri ei ben i ffwrdd.”
Yn ei achos dedfrydu, cafodd y llanc ei gadw dan glo a'i roi ar gwrs hyfforddiant am 24 mis, wedi iddo gyrraedd y llys yn hwyr am yr eildro.
Nid oes modd cyhoeddi ei enw oherwydd rhesymau cyfreithiol.
Clywodd y llys fod y bachgen wedi dwyn oriawr aur Rolex gwerth £20,000 oddi ar ddyn yn ei 70au yng ngorsaf Paddington yng ngorllewin Llundain hefyd.
Roedd i fod i sefyll ei brawf yn sgil y troseddau yn erbyn Aled Jones yn Llys Ieuenctid Wimbledon ym mis Awst ond plediodd yn euog i ladrata a bod ag arf yn ei feddiant.