Llawer o blaid 'gosod dyfais ar geir pobl sydd wedi yfed a gyrru'
Mae arolwg newydd yn awgrymu fod dros hanner o yrwyr yn credu y dylai pobl sydd wedi’u cael yn euog o yfed a gyrru gael eu gorfodi i gael clo arbennig ar eu ceir fydd yn eu hatal rhag gyrru dan ddylanwad alcohol eto.
Fe wnaeth 53% o bobl yn y Deyrnas Unedig sydd yn gyrru ddweud y dylai mesurau o’r fath gael eu gweithredu.
Fe wnaeth cymdeithas foduro'r RAC holi 1,763 o yrwyr a ddywedodd nad yw gwahardd pobl sydd wedi yfed a gyrru dro ar ôl tro “yn ymddangos fel yr ateb.”
Maen nhw’n dweud y dylai ‘alcolocks’ gael eu rhoi ar geir troseddwyr gan olygu na fydd eu ceir yn dechrau os ydyn nhw dros y terfyn yfed.
Byddai'n rhaid i bobl gymryd prawf anadlu er mwyn i’r injan ddechrau. Mae’r ddyfais hefyd yn gorfodi pobl i gymryd profion ar hap yn ystod eu taith.
Mae gwledydd fel Awstralia, Gwlad Belg, Canada a rhannau o’r Unol Daleithiau eisoes yn gwneud defnydd o’r dyfeisiau.
Diogelwch
Mae 27,837 o bobl yn y DU wedi eu cael yn euog o yfed a gyrru fwy nag unwaith yn yr 11 mlynedd hyd at 20 Gorffennaf, 2024, yn ôl ffigyrau’r DVLA.
Fe wnaeth 372 o bobl eu cael yn euog o yfed a gyrru o leiaf bedair gwaith.
Cafodd tua 300 o bobl eu lladd yn y DU yn dilyn gwrthdrawiad yn ymwneud â gyrrwr oedd dros y terfyn yfed yn 2022, yn ôl ffigyrau diweddaraf Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y DU.
Dywedodd pennaeth polisïau yr RAC, Simon Williams, ei fod yn galw ar Lywodraeth y DU i ystyried cyflwyno’r defnydd o ‘alcolocks’ fel rhan o’i strategaeth ar ddiogelwch ffyrdd.
Y terfyn cyfreithiol i yfed a gyrru yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yw 80mg o alcohol fesul 100ml o waed.
Y terfyn cyfreithiol ym mhob gwlad arall yn Ewrop, gan gynnwys Yr Alban wedi iddyn nhw newid y gyfraith yn 2014, yw 50mg fesul 100ml o waed.
Dywedodd llefarydd ar ran Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y DU eu bod yn cymryd diogelwch ar y ffordd “o ddifrif” a’u bod wedi eu hymrwymo i wella diogelwch ar y ffordd yn ogystal.
Llun: Philip Toscano/PA Wire