Y Ceidwadwyr Cymreig yn addo 'cyflwyno'r taliad tanwydd gaeaf'
Byddai'r Ceidwadwyr Cymreig yn cyflwyno taliad tanwydd gaeaf yng Nghymru pe byddan nhw yn ennill etholiad Senedd Cymru y flwyddyn nesaf, yn ôl eu harweinydd.
Bydd y blaid yn cyfarfod yn Llangollen ddydd Gwener ar gyfer eu cynhadledd flynyddol, gyda Darren Millar yn gaddo mai'r Ceidwadwyr Cymreig fydd â'r maniffesto mwyaf "beiddgar" y flwyddyn nesaf.
Yn ystod y gynhadledd a fydd yn cael ei chynnal dros gyfnod o ddau ddiwrnod, mae disgwyl i'r blaid gyhoeddi y byddant yn cyflwyno taliad tanwydd gaeaf Cymreig os ydyn nhw'n ennill yr etholiad yn y Senedd ym mis Mai 2026.
Yn flaenorol, fe gafodd y taliadau tanwydd gaeaf eu rhoi i bob pensiynwr ar draws y DU.
Ond y llynedd, fe wnaeth Llywodraeth y DU gyfyngu'r taliadau ar gyfer pensiynwyr ar gredydau pensiwn neu fudd-daliadau eraill yn unig.
Mae disgwyl i'r blaid hefyd addo i dorri cyfradd sylfaenol treth incwm o 1c, gan amddiffyn iechyd, ysgolion a ffermio.
Maent hefyd yn addo gwrthdroi ehangu y Senedd, a fydd yn cynyddu i 96 aelod y flwyddyn nesaf, yn ôl i 60 ar ôl yr etholiad.
Fe wnaeth arolwg diweddar gan YouGov awgrymu fod y Ceidwadwyr Cymreig yn bedwerydd gyda 13% o'r bleidlais yn yr etholiad nesaf, y tu ôl i Blaid Cymru, Reform UK a Llafur.
Dywedodd Darren Millar: "Maniffesto y Ceidwadwyr Cymreig ar gyfer 2026 fydd yr un mwyaf beiddgar ac uchelgeisiol yn ein hanes.
"Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn gweithio'n ddiflino i ddwyn Llafur i gyfrif, tra bod pleidiau eraill fel Plaid Cymru wedi eu cynnal yn rheolaidd."