Newyddion S4C

BBC yn gwneud cais i ehangu Radio Cymru 2

Radio Cymru 2

Mae'r BBC wedi cyflwyno cais i'r rheoleiddiwr Ofcom, i ehangu darpariaeth gwasanaeth Radio Cymru 2.

Pe bai'r cais yn llwyddianus, fe fyddai'r orsaf yn derbyn statws fel Gwasanaeth Darlledu Cyhoeddus yn ei hawl ei hun, yn hytrach na chwaer-orsaf i BBC Radio Cymru.

Mae'r BBC yn disgrifio'r orsaf fel gwasanaeth cerddoriaeth ac adloniant digidol yn cynnig mwy o ddewis i siaradwyr Cymraeg, sy'n darlledu bob bore o'r wythnos, ac yn cynnwys cyflwynwyr fel Rhydian Bowen Phillips, Lisa Gwilym, Daniel Glyn a Dom James.

Gan fod sefydlu Gwasanaeth Darlledu Cyhoeddus newydd yn newid sylweddol i'r llwyfan darlledu yn y DU, mi fydd Ofcom yn cynnal cyfnod o ymgynghoriad i gynnig cyfle i bobl a sefydliadau darlledu eraill i ymateb.

Mewn datganiad ar wefan Ofcom, dywedodd y rheoleiddiwr: "Rydym wedi cael y fantais o drafod y newid hwn yn gynnar â’r BBC ac rydym yn fodlon y byddai maint y newid yng nghynnig y BBC yn golygu bod angen i Radio Cymru 2 ddod yn orsaf radio newydd ac felly’n Wasanaeth Cyhoeddus newydd yn y DU.

"O dan y Cytundeb Fframwaith rhwng y BBC a’r Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, mae cyflwyno Gwasanaeth Cyhoeddus newydd yn y DU yn newid sylweddol ac felly’n amodol ar asesiad cystadleuaeth gan Ofcom."

Mae ymgyrchwyr iaith wedi croesawu cais y BBC, gyda mudiad Dyfodol i'r Iaith yn galw ar Ofcom i gymeradwyo'r cais yn syth.

Dywedodd Dylan Bryn Roberts, Prif Weithredwr Dyfodol i’r Iaith: “Rydym wedi bod yn galw am ail sianel radio Cymraeg ers cyn sefydlu Radio Cymru 2 ac yn gweld fod darpariaeth o’r fath yn allweddol wrth ennill cynulleidfa newydd i wrando ar radio Cymraeg.

"Yn yr oes aml-blatfform ddigidol sydd ohoni, does dim amheuaeth fod y gynulleidfa Gymraeg yn chwilio am fwy o amrywiaeth mewn gwasanaethau cyfrwng Cymraeg.”

Ychwanegodd “Os ydym o ddifri ynglŷn â chreu miliwn o siaradwyr Cymraeg a chynyddu defnydd beunyddiol ohoni yna mae’n rhaid wrth ymestyn cyfleoedd a phrofiadau eang i siaradwyr a dysgwyr y Gymraeg ei chlywed ledled Cymru a thu hwnt. Edrychwn ymlaen yn eiddgar at glywed cyhoeddi penderfyniad Ofcom yn y dyfodol.”

Mae Ofcom hefyd wedi nodi mai eu bwriad yw cynnal asesiad byrrach nag arfer dros gyfnod o lai na chwe mis, ond eu bod yn cadw’r opsiwn i gynnal asesiad cystadleuaeth llawn os yw’r materion sy’n codi yn ystod yr ymgynghoriad yn haeddu hynny.

Ers ei sefydlu yn 2018, mae Radio Cymru wedi tyfu eisoes drwy ehangu eu horiau darlledu, ac yn aml yn cynnig opsiynau gwrando ychwanegol i wrandawyr yn ystod digwyddiadau a gemau chwaraeon.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.