Ffrwydrad ger Rhydychen wedi i fellten daro tanc nwy
Roedd ffrwydrad mawr ger Rhydychen wedi i fellten daro tanc nwy.
Dywedodd cwmni Severn Trent Green Power mewn neges ar eu cyfryngau cymdeithasol bod un o'u tanciau oedd yn cynnwys bio-nwy wedi tanio ar ôl cael ei daro gan fellten.
Mae fideos a lluniau wedi eu cymryd o'r A34 i'r gogledd-orllewin o'r ddinas yn dangos fflach llachar ychydig cyn 20:00.
Inline Tweet: https://twitter.com/Knocker/status/1708910077871038609?s=20
Mae trigolion wedi dweud eu bod nhw wedi profi toriadau pŵer mewn sawl ardal gyfagos.
Mewn datganiad nos Lun, dywedodd cwmni Severn Trent Green Power: "Gallwn gadarnhau fod tanc ar ein safle Cassington AD ger Yarnton wedi cael ei daro gan fellten am tua 19:20, a hynny wedi arwain at danio'r bio-nwy y tu mewn i'r tanc.
"Rydym yn gweithio gyda'r gwasanaethau brys i sicrhau bod y safle yn ddiogel a byddwn yn darparu rhagor o sylwadau cyn bo hir."
Llun: Knocker / Twitter