Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn dal i drafod a fydd Llysgennad Brenhinol newydd
Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn dal i drafod a fydd Llysgennad Brenhinol newydd
Mae deiseb wedi ei sefydlu yn galw ar Gymdeithas Bêl-droed Cymru i beidio â phenodi 'Llysgennad Brenhinol' newydd, yn sgil marwolaeth y Frenhines Elizabeth II fis Medi 2022.
Tan ei marwolaeth y llynedd, y Frenhines oedd Llysgennad Cymdeithas Bel-droed Cymru, ac ar hyn o bryd, mae'r gymdeithas yn trafod a ddylid parhau â'r rol yn y dyfodol.
Yn ôl Prif Weithredwr y gymdeithas, Noel Mooney mae'r trafodaethau yn parhau. Ac wrth siarad â rhaglen Newyddion S4C, pwysleisiodd bod angen gwneud y peth "cywir " ar gyfer pêl-droed Cymru a'r gymdeithas.
"Beth sy'n dod â gwerth i bêl-droed Cymru? Beth sy'n ein gwneud yn well?
"Mae gennym adolygiad, ry'n ni'n trafod ag amrywiol bartneriaid. Ac ar hyn o bryd, mae'r broses honno yn dal i gael ei hadolygu," meddai.
'Gelyniaethu'
Mae galwadau bellach i beidio â phenodi Llysgennad Brenhinol newydd, gyda grŵp Cymru Republic yn dechrau deiseb yn galw am ddewis rhywun sy'n "angerddol dros Gymru" ac a fyddai'n hyrwyddo pêl-droed Cymru ar bob lefel.
Dywedodd Bethan Sayed o Cymru Republic : "Ma’ Cymdeithas Pêl-droed Cymru wedi bod yn wych yn tynnu pobl at ei gilydd, gyda’r iaith, gyda teuluoedd yn mynychu’r gemau, gyda teimlo fel bod e’n rhywbeth sydd yn ran o fywyd pob dydd Cymreig.
"A felly, dydyn ni ddim yn gweld fod cael Llysgennad Brenhinol yn cyd-fynd gyda hynny.
"Os unrhyw beth, fydd e’n gelyniaethu nifer o fans sydd falle ddim yn ymwneud gyda y teulu frenhinol."
Mae aelodau'r teulu brenhinol yn llysgenhadon i dros 60 o sefydliadau yng Nghymru, o'r Sioe Frenhinol yn Llanelwedd i Undeb Rygbi Cymru. Mae nifer yn dadlau bod eu rôl yn rhoi statws uwch i'r sefydliadau hynny.
Mae'r cyn weinidog chwaraeon Dafydd Elis-Thomas o'r farn bod llysgenhadon o'r fath yn medru bod yn fuddiol.
"Y statws sydd ar gael gan aelod blaenllaw o’r teulu brenhinol, sydd gobeithio gyda diddordeb mewn chwaraeon, fel ma’ rhan fwya’ ohonyn nhw - bod hwnna, o ddefnydd go iawn i hyrwyddo digwyddiadau arbennig yn y gêm," meddai.