Rygbi: Jac Morgan allan o dîm Cymru fydd yn herio Georgia
Mae cyd-gapten Cymru Jac Morgan wedi ei adael allan o dîm Cymru fydd yn wynebu Georgia yng Nghwpan Rygbi'r Byd.
Mae Prif Hyfforddwr Cymru, Warren Gatland wedi enwi ei dîm i wynebu Georgia yn Stade de la Beaujoire, Nantes yn eu gêm grwp olaf yng Nghwpan y Byd ddydd Sadwrn.
Fe fydd Dewi Lake yn dychwelyd fel capten, wedi iddo golli'r gêm yn erbyn Awstralia.
Gareth Thomas a Tomas Francis fydd yn ymuno a Lake yn y rheng flaen.
Mae’r wythwr Taulupe Faletau a’r asgellwr Louis Rees-Zammit wedi eu cynnwys am y pedwerydd tro yn ystod y bencampwriaeth eleni.
Tommy Reffell ac Aaron Wainwright fydd yn cwblhau’r rheng ôl gyda Faletau.
Bydd Dafydd Jenkins yn dechrau ei ail gêm o’r gystadleuaeth yn yr ail reng ac yn ennill ei bedwerydd cap a bydd ei gyd-glo Will Rowlands yn dechrau ei drydedd gêm o’r bencampwriaeth yn Ffrainc.
Wedi ei berfformiad campus wrth hawlio 23 o bwyntiau yn erbyn Awstralia, Gareth Anscombe fydd yn dechrau’n faswr gyda Tomos Williams yn fewnwr.
Nid yw Dan Biggar yn rhan o'r tîm wedi iddo orfod gadael y cae gydag anaf i'w ysgwydd yn ystod y gêm yn erbyn y Wallabies.
Bydd Nick Tompkins a George North yn parhau eu partneriaeth yn y canol am y trydydd tro yn y gystadleuaeth eleni.
Bydd Rio Dyer yn dechrau ei ail ornest o’r gystadleuaeth ar yr asgell ac mae Liam Williams wedi ei ddewis yn gefnwr.
O ran eilyddion Cymru mae Elliot Dee, Nicky Smith a Henry Thomas wedi eu dewis fel opsiynau ar gyfer y rheng flaen.
Bydd Christ Tshiunza a Taine Basham yn cynnig opsiynau rheng ôl.
Gareth Davies, Sam Costelow a Mason Grady yw’r olwyr sydd wedi eu henwi ar y fainc.
Tîm Cymru yn erbyn Georgia
15. Liam Williams
14. Louis Rees Zammit
13. George North
12. Nick Tompkins
11. Rio Dyer
10. Gareth Anscombe
9. Tomos Williams
1. Gareth Thomas
2. Dewi Lake
3. Tomas Francis
4. Will Rowlands
5. Dafydd Jenkins
6. Aaron Wainwright
7. Tommy Reffell
8. Taulupe Faletau
Eilyddion
16. Elliot Dee
17. Nicky Smith
18. Henry Thomas
19. Christ Tshiunza
20. Taine Basham
21. Gareth Davies
22. Sam Costelow
23. Mason Grady