Tân a ddinistriodd uned ar safle diwydiannol wedi ei ddiffodd
Mae tân a ddechreuodd nos Wener ar safle diwydiannol ger Caerffili wedi ei ddiffodd ddydd Sul.
Mae un o’r unedau ym Mharc Eco Capital Valley yn Rhymni ei ddinistrio.
Roedd y gwasanaethau brys wedi gofyn i bobl oedd yn byw gerllaw gadw eu drysau a’u ffenestri ar gau wrth iddyn nhw fynd i’r afael â’r tân.
Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru na chafodd Afon Rhymni gerllaw ei llygru.
Roedden nhw wedi cynghori ddydd Sadwrn y dylai pobl osgoi mynd i mewn i’r afon rhag ofn ei fod yn cynnwys halogion.
Bu’r A469 ar gau am gyfnod rhwng B4257 Stryd Carno a Heol Evan Wynne.