Newyddion S4C

Storm Éowyn: Dyn 19 oed wedi marw wedi i'w gar gael ei daro gan goeden

Heddlu yr Alban

Mae dyn 19 oed wedi marw ar ôl i’w gar gael ei daro gan goeden yn ystod Storm Éowyn.

Roedd y dyn ifanc yn gyrru ger Mauchline, Dwyrain Swydd Ayr yn yr Alban, fore Gwener pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad tua 6.45 ddydd Gwener.

Roedd hynny cyn i'r rhybudd tywydd coch yn yr ardal ddod i rym am 9.00.

Cafodd ei gludo i Ysbyty Athrofaol y Frenhines Elizabeth yn Glasgow ond bu farw ddydd Sadwrn.

Nid yw'r llanc wedi cael ei enwi.

Dywedodd yr heddlu: “Digwyddodd y gwrthdrawiad tua 6.45am ddydd Gwener, 24 Ionawr, 2025 ar y B743 ac roedd yn ymwneud â Ford Focus glas.

“Cafodd y gyrrwr, dyn 19 oed, ei gludo i Ysbyty Athrofaol y Frenhines Elizabeth yn Glasgow am driniaeth. Bu farw ddydd Sadwrn, 25 Ionawr.”

Ychwanegodd y Rhingyll Chris McColm o’r Uned Plismona’r Ffyrdd: “Mae ein meddyliau gyda theulu a ffrindiau’r dyn fu farw.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.