Alys Williams: 'Dw i isho helpu merched i deimlo'n gryf drwy godi pwysau'
Alys Williams: 'Dw i isho helpu merched i deimlo'n gryf drwy godi pwysau'
Annog mwy o ferched i godi pwysau - dyna fwriad cantores o Gaernarfon.
Mae Alys Williams yn wyneb cyfarwydd i nifer ers iddi ymddangos ar raglen The Voice UK yn 2013, pan gafodd ei dewis i fod yn rhan o dîm Syr Tom Jones.
Ers hynny, mae Alys, sydd bellach yn 37 oed ac yn byw yn Llanrug, wedi rhyddhau nifer o senglau, gan gynnwys Dim Ond, Cyma dy Wynt a Dal Fi Lawr.
Dywedodd ei bod yn arfer teimlo'n "ofnadwy o nerfus" wrth berfformio, ond bod codi pwysau dros y ddegawd ddiwethaf wedi ei helpu i fagu hyder.
Fe berfformiodd gyda’r band Candelas y llynedd yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd o flaen torf o 12,000 o bobl.
"Dw i’n sicr yn meddwl bod codi pwysau ‘di helpu fi efo ngyrfa fel cantores, oherwydd mae o’n helpu efo dy hunan hyder di a dy feddylfryd di," meddai.
"Os ti’n gallu codi a mynd i’r gym i godi pwysau pan ti ‘di blino, neu ddim yn teimlo fel gwneud, dw i’n teimlo bo fi’n gallu neud pethau anodd rŵan – dw i lot fwy positif a hyderus ers dechrau gwneud hynny."
Mae Alys bellach wedi cymhwyso fel hyfforddwraig bersonol i helpu merched eraill i "deimlo'n gryf ac yn iach".
"Dw i’n meddwl bod lot o ferched yn dechrau codi pwysau i edrych yn well – ac i fod yn onast, dyna pam neshi ddechrau codi pwysau cyn priodi," meddai.
"Ond y gwir ydi, ar ôl i chdi ddechrau codi pwysau, mae o’n newid dy feddylfryd di a sut wyt ti’n meddwl am dy gorff."
Fel merched eraill a gafodd eu geni yn y 1980au, fe wnaeth Alys dyfu i fyny yn ystod adeg pan roedd cylchgronau'n hyrwyddo'r syniad o fod yn denau.
Felly mae'r gantores yn croesawu'r ffaith bod mwy a mwy o ferched yn dechrau codi pwysau yn ddiweddar.
"Ti jyst yn gweld dy gorff fatha, waw, sbia be' dwi’n gallu neud," meddai
"Yn hytrach na trio bod y fersiwn lleia' posib ohona chdi dy hun."
'Bywiogrwydd ac annibyniaeth'
Yn ôl Alys, mae'n hanfodol i fenywod godi pwysau wrth iddyn nhw fynd yn hŷn.
"Mae 'na gymaint o astudiaethau sy’n profi bo' ni’n colli canran o fás cyhyrol bob blwyddyn ar ôl i ni droi’n 30," meddai.
"Felly os 'da ni isho cynnal bywiogrwydd ac annibyniaeth fel 'da ni’n heneiddio, mae’n hollbwysig.
"Drwy lwytho’r esgyrn efo pwysau, mauo’n cryfhau nhw ac yn stopio chdi rhag cael osteoporosis."
Yn ôl y Gymdeithas Osteoporosis Brenhinol, mae'r cyflwr yn effeithio ar 3.5 miliwn o bobl yn y DU, gan achosi esgyrn i wanhau a thorri.
Mae osteoporosis yn fwy tebygol o effeithio merched, gyda dros hanner o ferched dros 50 oed yn debygol o dorri asgwrn oherwydd y cyflwr.
Dywedodd Kirsty Carne, uwch nyrs arbenigol osteoporosis sy'n aelod o'r gymdeithas, mai codi pwysau yw'r ffordd orau i wella dwysedd esgyrn.
"Hyfforddiant ymwrthedd cynyddol, gan ddefnyddio pwysau neu fandiau gwrthiant, yw'r math gorau o ymarfer i wella dwysedd eich esgyrn," meddai.
"I gael y canlyniadau gorau, mae angen i chi gynyddu'n raddol y pwysau rydych chi'n ei godi, neu'r gwrthiant rydych chi'n ei dynnu, i gryfhau eich cyhyrau."
Ychwanegodd y dylai'r rhai sydd erioed wedi codi pwysau o'r blaen ddechrau o dan oruchwyliaeth arbenigwr yn y gampfa.
"Mae’n bwysig cynyddu’n raddol, yn seiliedig ar eich lefel ffitrwydd a chryfder eich cyhyrau," meddai.
'Edrych ymlaen i helpu'
Ar drothwy ei phennod newydd fel hyfforddwraig, mae Alys yn annog pawb o bob oedran i roi cynnig ar godi pwysau.
"Mae’n wbath i bawb, dim ots os 'da chi’n 60 ac erioed 'di codi pwysau o blaen, achos mae pawb yn medru cryfhau," meddai.
"Os 'da chi’n cael hyffroddiant iawn ac yn cael y dechneg yn iawn, mi newch chi deimlo’r manteision a gweld y manteision o godi pwysau."
Ychwanegodd: "Dw i’n caru canu a dw i wrth fy modd bod yn gantores, ond dw i’n edrych ymlaen yn ofnadwy i fedru helpu pobl – a gweld bo fi’n helpu pobl."