Cyn lawfeddyg: 'Unedau brys ysbytai'r gogledd yn waeth na'r rhai tlotaf yn y byd'

Newyddion S4C
Jon Osborne
Jon Osborne

Mae cyn lawfeddyg ac ymgyrchydd o Gonwy wedi dweud bod y sefyllfa mewn rhai unedau brys a damweiniau ysbytai gogledd Cymru yn waeth na'r gofal sy'n cael ei gynnig mewn rhai o'r ysbytai tlotaf yn y byd.

Yn ôl Jon Osborne, fu’n llawfeddyg gyda’r gwasanaeth iechyd, mae nifer o gleifion yn cael eu trin mewn coridorau heb urddas a pharch.

Mae’n arwain ymgyrch BEDS sy’n galw ar Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr a Llywodraeth Cymru i gynyddu capasiti mewn ysbytai cymunedol er mwyn lleddfu pwysau sydd ar nifer o wardiau yn ysbytai’r gogledd.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn dweud eu bod yn derbyn nad ydi’r sefyllfa i rai cleifion yn dderbyniol ond bod darn sylweddol o waith ar y gweill i wella profiadau mewn unedau brys.

Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos mai ym mwrdd iechyd y gogledd mae’r rhestrau aros hiraf mewn unedau brys gyda 18.4% o achosion yn aros mwy na 12 awr yn yr unedau brys.

Dyna brofiad Gavin Borrough o Drawsfynydd fis Tachwedd 2025 ar ôl dioddef problemau gyda’i stumog.

“Odd o’n brofiad erchyll, cos ti’n ista ar gadair ac mae gen ti boenau mawr, ti’n meddwl bod ti’n marw mewn ffordd, dyna pam ti yn A&E oherwydd bod ti’n sal uffernol,” meddai.

“Cal dy adael ar gadair a neb yn dweud beth oedd yn digwydd na faint ti’n disgwyl, dim reassurance mewn ffordd. Mae 24 awr yn teimlo fel wythnos.”

Erbyn cael ei symud i ward, roedd Mr Borrough wedi treulio 42 awr yn yr uned frys ac mae'n dweud fod nifer mewn sefyllfa debyg.

“Oedd bob man yn cael ei ddefnyddio, fel oedda ti’n mynd drwy'r drws oedda ti’n gweld gwlâu ar y coridor, pobl yn eistedd mewn cadeiriau a phobl ym mhob man,” meddai.

Ar ôl cwyno ar gyfryngau cymdeithasol mi gafodd Mr Borrough ei wahodd i gyfarfod ag un o reolwyr y bwrdd iechyd i drafod ei bryderon, ond mae’n teimlo nad yw gwersi wedi eu dysgu.

“Mae na wahaniaeth yn y polisïau mae nhw’n gaddo a’r patient experience”.

Image
Gavin Burrough
Roedd Gavin Burrough wedi treulio 42 awr yn yr uned frys 

Mae Jon Osborne yn gyn lawfeddyg yn Ysbyty Glan Clwyd ond mae o hefyd wedi gweithio mewn nifer o wledydd tramor fel meddyg.

Mae o’n ymgyrchydd brwd yn galw am welliannau i ofal brys yn y gogledd gan ddweud bod y sefyllfa ar hyn o bryd yn annerbyniol.

“Mae na drasiedïau efo cleifion yn marw heb fod angen neu’n datblygu anhwylderau ac yn cael eu cadw mewn amgylchiadau ofnadwy ar goridorau lle mae mynediad at doiledau’n anodd a dydy nhw ddim yn cael eu gwarchod,” meddai.

“Dwi 'di gweithio yn y trydydd byd a weithiau mae’r sefyllfa yn well [yno] nag ydio ar hyn o bryd mewn unedau brys yma yng ngogledd Cymru.”

Mae’r grŵp ymgyrchu BEDS yn galw ar y bwrdd iechyd i agor mwy o wlâu mewn ysbytai cymunedol er mwyn lleddfu pwysau ar y wardiau mewn ysbytai cyffredinol.

Mae nhw hefyd yn galw ar feddygon mwy profiadol i weithio yn yr unedau brys er mwyn gwneud y broses o adnabod cleifion sydd angen cymorth yn gynt ac yn haws.

Mae’r cyn nyrs Mair Dowell o Lanelwy hefyd yn galw am welliannau ac yn aelod o’r ymgyrch.

Mi weithiodd yn Ysbyty Glan Clwyd o’r diwrnod agorodd y safle hyd at 2017.

Mae hi hefyd yn dweud mai prinder gwlâu yw un o’r heriau mwyaf i’r bwrdd iechyd.

Image
Mair Dowell
Mae'r cyn nyrs Mair Dowell yn dweud bod y sefyllfa yn torri ei chalon

“Mae na gymaint o bobl hynafol yn yr ardal yma ac yn dod i retirio,” meddai.

“Ond ‘dio ddim jest hynny, mae na bobl eraill sydd eisiau mynd adref ond di’r gofal ddim yna yn y gymuned.”

Ychwanegodd bod gweld y penawdau a straeon ynghylch pryderon am ofal yn “torri ei chalon”.

Ym mis Ionawr mi wnaeth Cyngor Conwy ddilyn Cyngor Sir Ddinbych gan ddatgan argyfwng iechyd gan alw am welliannau a dod â’r drefn o drin cleifion mewn coridorau i ben.

Wrth ymateb dywedodd Tehmeena Ajmal, Prif Swyddog Gweithredu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr bod gofal brys ac argyfwng yn “parhau’n flaenoriaeth” a’u bod yn cydnabod bod “gormod o gleifion yn aros yn hirach nag y dylent ac y gall hyn gael effaith sylweddol a gofidus ar unigolion a'u teuluoedd”.

"Ledled y DU, mae Adrannau Achosion Brys, gan gynnwys y rhai yn ein bwrdd iechyd ni, eisoes yn gorfod defnyddio coridorau mewn Adrannau Achosion Brys, yn anffodus, er mwyn delio â chleifion ychwanegol, yn ystod cyfnodau o bwysau sylweddol," meddai. 

"Mae rhaglen wella sylweddol ar y gweill ar draws ein Hadrannau Achosion Brys. Mae hyn yn cynnwys rhoi clinigwyr profiadol wrth y drws ffrynt er mwyn asesu a chyfeirio cleifion at y gwasanaeth mwyaf priodol cyn gynted ag y byddant yn cyrraedd; gwella mynediad cynnar at dimau arbenigol; atgyfnerthu penderfyniadau clinigol uwch; ac ehangu gofal yn nes at y cartref fel bod y rhai sydd â'r anghenion mwyaf dybryd yn mynd i'n Hadrannau Achosion Brys yn unig.

"Rydym wedi cyfarfod ag aelodau BEDS a Mr Borrough ac rydym wedi croesawu'r cyfle i glywed am eu profiadau'n uniongyrchol. Rydym yn ddiolchgar iddynt am roi o'u hamser i rannu eu safbwyntiau gyda ni.

"Mae diogelwch, urddas a lles ein cleifion wrth wraidd popeth yr ydym yn ei wneud. Er bod mwy i'w wneud, rydym yn gweithio'n galed, yn ddiwyd ac yn benderfynol, i gyflawni gwelliannau cynaliadwy.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru “Nid yw gofal mewn amgylcheddau heb eu dynodi neu rhai nad ydynt yn glinigol yn dderbyniol. Mae'n peryglu urddas, diogelwch a lles cleifion”

"Rydym wedi darparu dros £200m o gyllid ychwanegol eleni i helpu pobl i adael yr ysbyty pan fyddant yn barod, i sicrhau eu bod yn derbyn y gofal cywir, yn y lle iawn ac ar yr adeg iawn

"Mae byrddau iechyd yn gyfrifol am gynllunio a darparu gwasanaethau yn seiliedig ar asesiad o anghenion y boblogaeth leol. Mae hyn yn cynnwys penderfyniadau ar gapasiti gwelyau ysbyty neu gwelyau yn y gymuned, er mwyn ateb y galw yn lleol."

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.