Arestio dyn ar ôl darganfod 'arfau anghyfreithlon' yn Abergwynfi
Mae dyn wedi cael ei arestio ar ôl i "nifer sylweddol o arfau anghyfreithlon" gael eu darganfod mewn tŷ yn Abergwynfi, Castell-nedd Port Talbot.
Cafodd swyddogion eu galw i gyfeiriad ar Stryd Commercial yn y pentref ar ôl derbyn galwad tua 21.30 ddydd Sul.
Mae dyn 51 oed o Flaengwynfi wedi cael ei arestio ar amheuaeth o geisio creu ffrwydryn gyda'r bwriad o beryglu bywyd neu eiddo.
Mewn datganiad ddydd Llun, dywedodd Heddlu'r De eu bod yn archwilio'r adeilad gyda chefnogaeth asiantaethau eraill.
"Bydd mwy o bresenoldeb plismona yn yr ardal tra bod yr ymchwiliad yn parhau," meddai llefarydd ar ran y llu.
"Mae trigolion tai cyfagos wedi cael eu symud lle bo modd."
Ychwanegodd y dylai pobl osgoi'r ardal i ganiatáu mynediad i'r gwasanaethau brys.
Llun: Google Maps
