Starmer yn addo mynd i’r afael â chyfryngau cymdeithasol sy’n ‘niweidio ein plant’
Mae’r Prif Weinidog Keir Starmer wedi addo mynd i’r afael ag elfennau o gyfryngau cymdeithasol sy’n gwneud plant yn “gaeth”.
Mae’r cynigion yn cynnwys ymgynghori ar waharddiad posibl ar gyfryngau cymdeithasol i rai dan 16 oed.
Mae’r llywodraeth hefyd yn edrych ar gau bylchau yn y cyfreithiau presennol sydd wedi’u cynllunio i amddiffyn plant ar-lein.
Hefyd dan ystyriaeth mae atal mynediad at declynnau sgwrsio AI, a hefyd cyfyngu ar gyfryngau cymdeithasol sy’n annog sgrolio diddiwedd.
Maen nhw hefyd yn ystyried mesurau i atal pobl rhag cael mynediad at bornograffi drwy ddefnyddio rhwydweithiau preifat rhithwir (VPNs) er mwyn osgoi gwiriadau oedran.
Daw’r awgrymiadau ar ôl i Lywodraeth y DU herio platfform X yn gynharach eleni oherwydd bod eu teclyn sgwrsio AI, Grok, yn caniatáu creu delweddau rhywiol o fenywod.
“Mae’r modd y gwnaethon ni weithredu ar Grok yn dangos nad yw’r un llwyfan yn cael rhwydd hynt i wneud fel y mynno,” meddai Syr Keir.
“Mae technoleg yn symud yn hynod o gyflym ac mae’n rhaid i’r gyfraith ddal i fyny.
“Fe fydd fy llywodraeth i yn sicrhau bod Prydain yn arwain, nid yn dilyn, pan ddaw at ddiogelwch ar-lein.”
Ychwanegodd: “Yn ystod yr 20+ mlynedd diwethaf, mae cyfryngau cymdeithasol wedi esblygu i fod yn rhywbeth hollol wahanol i’r tudalennau syml yr oedden nhw’n wreiddiol.
“Ac yn yr esblygiad hwnnw, mae wedi dod yn rhywbeth sy’n niweidio ein plant yn dawel.
“Os yw hynny’n golygu brwydr gyda chwmnïoedd cyfryngau cymdeithasol mawr, rydw i’n barod am hynny.”
Dywedodd ysgrifennydd addysg cysgodol y Ceidwadwyr, Laura Trott, bod Prydain “ar ei hôl hi”.
“Rwy’n glir y dylem atal plant dan 16 oed rhag cael mynediad at y llwyfannau hyn,” meddai.
