Dylanwadwyr YouTube am agor bwyty newydd yng Nghaerdydd

Y Sidemen

Mae dylanwadwyr byd-enwog ar YouTube, y Sidemen, wedi dweud eu bod nhw’n bwriadu agor bwyty newydd yng Nghaerdydd yn ddiweddarach eleni.

Mae disgwyl i’r criw sydd â dros 22 miliwn o ddilynwyr agor 15 o'u bwytai cyw iâr newydd o’r enw ‘Sides’ yn y DU, gan gynnwys y cyntaf yng Nghymru.

Mae'r Sidemen yn cynnwys Olajide ‘JJ’ Olatunji (KSI), Harry Lewis (Wroetoshaw), Simon Minter (Miniminter), Vik Barn (Vikkstar123), Josh Bradley (Zerkaa), Ethan Payne (Behzinga) a Tobi Brown (TBJZL).

Ar hyn o bryd, mae ganddynt bum bwyty yn y DU, gan gynnwys yn Essex, Manceinion, Llundain, Caint a Birmingham. Agorodd eu bwyty rhyngwladol cyntaf yn Singapore y llynedd.

Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd y Sidemen: “Rydym yn hynod gyffrous i gymryd y cam nesaf hwn.”

“Blasau beiddgar a bwyd gwych” sydd wrth wraidd y busnes, ac maen nhw’n awyddus i ehangu ymhellach, medden nhw.

Dywedodd Aaron Moore-Saxton, rheolwr gyfarwyddwr Sides: “Rydym yn gweld momentwm anhygoel yn y DU a galw cynyddol yn rhyngwladol, ac mae hynny’n rhoi hyder gwirioneddol i ni yn y cam nesaf o’n taith.”

Mae cynlluniau ganddynt hefyd i agor rhagor o safleoedd yn rhyngwladol, gan gynnwys yn India, Malaysia a’r Emiradau Arabaidd Unedig.

Llun: @sidemen/Instagram

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.