Prifysgol Bangor wedi wynebu 'blwyddyn heriol iawn'

Bangor

Fe wnaeth Prifysgol Bangor wynebu blwyddyn ariannol “heriol iawn” y llynedd gan gofnodi diffyg ariannol o £18.3m, meddai’r sefydliad.

Gostyngodd eu hincwm o ffioedd dysgu 11% o ganlyniad i gwymp yn nifer y myfyrwyr tramor a chartref, meddai'r sefydliad, gan arwain at gwymp o 7% mewn incwm ar draws y flwyddyn ariannol.

Roedd y diffyg ariannol yn 2024/25 yn cymharu â diffyg ariannol o £13.4m yn y flwyddyn ariannol flaenorol, heb gyfrif newidiadau yng ngwerth cynllun pensiwn y brifysgol, meddai eu hadroddiad ariannol blynyddol.

Mae’r brifysgol yn dweud eu bod nhw’n rhagweld y bydd 2025/26 “yn parhau i fod yn flwyddyn heriol” eto, ond eu bod nhw’n gobeithio gweld gwarged (surplus) o 2026/27 ymlaen.

“Cawsom ostyngiad mawr ym mewnlif myfyrwyr rhyngwladol drwy gydol y flwyddyn oherwydd newidiadau i system fisa myfyrwyr y Deyrnas Unedig,” meddai’r brifysgol yn eu hadroddiad blynyddol. 

“Cawsom ostyngiad hefyd yn ein mewnlif cartref wrth i ni weld mwy o fyfyrwyr yn cael eu recriwtio i brifysgolion tariff uchel gan arwain at gyfran lai o’r farchnad i brifysgolion tariff canolig.”

Roedd gan y brifysgol 9,875 o fyfyrwyr yn astudio gyda nhw ym mlwyddyn academaidd 2024/25, gostyngiad o tua 8% ar y flwyddyn flaenorol.

Roedd ymrestriadau rhyngwladol wedi gostwng tua 24% o gymharu â’r flwyddyn flaenorol.

Dywedodd y brifysgol bod cynllun diswyddo gwirfoddol ymysg y camau roedden nhw wedi eu cymryd er mwyn lleihau’r diffyg ariannol.

Dywedodd yr Athro Edmund Burke, bod “prifysgolion ledled y Deyrnas Unedig yn parhau i weithredu mewn amgylchedd ariannol ansicr”.

“Creodd costau gweithredu cynyddol, newidiadau polisi a effeithiodd ar fyfyrwyr rhyngwladol a chyfraniadau cyflogwyr, ymhlith datblygiadau eraill, bwysau parhaus ar gyllid sefydliadau,” meddai.

“Mewn ymateb, cynhaliodd Prifysgol Bangor ymarfer ariannol i sicrhau arbedion o £15 miliwn. Roedd hwn yn benderfyniad anodd ond hanfodol i sicrhau bod ein sylfaen costau yn gynaliadwy ac yn cyd-fynd â’n hincwm hirdymor.”

‘Penderfyniadau anodd’

Daw diffyg Prifysgol Bangor wedi i brifysgolion Caerdydd ac Abertawe gyhoeddi diffyg gweithredol sylfaenol o £33.4 miliwn a £39.9 miliwn.

Cyhoeddodd Prifysgol Abertawe ym mis Ionawr eu bod nhw’n bwriadu torri tua 55 o staff ar draws amrywiaeth o ddisgyblaethau “i sicrhau ei chynaliadwyedd ariannol yn y dyfodol”.

Dywedodd Prifysgol Aberystwyth eu bod nhw wedi lleihau eu diffyg ariannol o £8.1m yn 2023/24 i £2.4m yn 2024/25.

“Er mwyn gwella ein sefyllfa weithredol, bu’n rhaid i ni wneud rhai penderfyniadau anodd i leihau gwariant,” medden nhw.

“Drwy ymgymryd â rhaglen o arbedion, fe wnaethom leihau costau staff a nwyddau traul dros £14 miliwn yn ystod y cyfnod.

“Ar gyfer 2025/26, mae ein cyllideb yn rhagweld gwelliant pellach yn y sefyllfa weithredol, gan adeiladu ar y cynnydd a wnaed yn y flwyddyn hon.”

Mewn adroddiad a gafodd ei gyhoeddi yr wythnos diwethaf, dywedodd arolygydd addysg bellach ac uwch Cymru, Medr, bod nifer y myfyrwyr sydd wedi cofrestru gyda darparwyr addysg uwch yng Nghymru wedi cynyddu 14% dros y 10 mlynedd diwethaf. 

Roedd hynny’n is na ffigur y DU sef 25%.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.